Arddangosiadau Arbennig: Celf yr 20fed Ganrif o Gymru - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Cafodd nifer fawr o artistiaid o Gymru lwyddiant proffesiynol yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif.
Mae’r oriel hon fel arfer yn cynnwys arddangosiadau newidiol o’u gwaith. Mae rhagor o fanylion o dan Arddangosfeydd a Digwyddiadau.
Un o brif gryfderau casgliadau’r Amgueddfa yw gwaith artistiaid o Gymru’r 20fed ganrif, a’r rheini a ymgartrefodd yng Nghymru. Yn wir, rydyn ni’n ganolfan ar gyfer astudio eu gwaith.
Mae’r artistiaid hyn yn cynnwys Augustus John a Gwen John oedd yn frawd a chwaer; David Jones, arlunydd a bardd; Ceri Richards y swrealydd, a llawer mwy.
Mae’r arddangosiadau newidiol yn archwilio agweddau ar eu gwaith a hanes ehangach y celfyddydau gweledol yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn.
Arddangsofa gyfredol
Shirley Jones: 30 Mlynedd o Wasg Red Hen
Arddangosfeydd y gorffennol
- Jonah Jones: Y Gair
- Myned tua’r Modern: Hynt a Helynt Celf Haniaethol yng Nghymru
- David Jones II - Engrafiadau, Darluniau ac Arysgrifau
- David Jones: Paentiadau a Lluniau Dyfrlliw
- Graham Sutherland
- Augustus John
- Merlyn Evans
Arddangosfeydd y dyfodol
[delwedd: Graham Sutherland, Dog Rock (1975-6) - Estate of Graham Sutherland]
Graham Sutherland, Dog Rock (1975-6) - Estate of Graham Sutherland
[delwedd: Augustus John (1878-1961), Gwen John (1876-1939) - Estate of Augustus John / Bridgeman Art Library]
Augustus John (1878-1961), Gwen John (1876-1939)
- Estate of Augustus John / Bridgeman Art Library
[delwedd: Map oriel 13]
Lleoliad:
Oriel 13Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd