Ymchwil phlanhigion is
Mae gwaith ymchwil wrthi’n cael ei gynnal mewn tri phrif faes ymchwil tacsonomeg mewn perthynas â phlanhigion is. Gallwch weld prosiectau ymchwil trwy glicio ar y dolenni isod o dan yr adran berthnasol.
Caiff unrhyw waith moleciwlaidd a gyflawnir sy’n canfod cod genetig ei anfon i Genbank
Prosiectau Ymchwil Diatomau
Staff: Ingrid Jüttner
- Monitro adferiad nentydd ar ôl asideiddio yn ardal Gwy
- Ffloras diatomau dŵr croyw Ynysoedd Prydain
- Tacsonomeg, ecoleg a bioddaearyddiaeth diatomau o gynefinoedd isawyrol
- Amrywiaeth diatomau mewn ecosystemau dŵr ffres yn Nepal
» Mwy am Prosiectau Ymchwil Diatomau
Prosiectau Ymchwil Bryoffytau
Staff: Ray Tangney ac Alan Orange
- Monitro adferiad nentydd ar ôl asideiddio yn ardal Gwy
- Amrywiaeth Morffolegol a Molecylaidd mewn Marsupella emarginata
- Triniaethau tacsonomaidd Fflora Mwsog Seland Newydd
- Systemateg mwsog plu (pleurocarpous): Isothecium
» Mwy am Prosiectau Ymchwil Bryoffytau
Prosiectau Ymchwil Cen y Cerrig
Staff: Alan Orange
- Verrucaria dŵr ffres
- Y grwpiau Verrucaria dolosa a Verrucaria murina
- Tacsonomeg rhywogaethau 'brown' o Verrucaria ym Mhrydain
- Verrucariaceae o Nepal
- Adolygiad byd-eang o Verrucariaceae
» Mwy am Prosiectau Ymchwil Cen y Cerrig
British Pyrenocarpous Lichens
Alan Orange (2008)
Dyma ganllaw anffurfiol i adnabod cen gyda pherithecia (cyrff hadol sy’n agor gyda mandwll). Fe’i paratowyd yn wreiddiol ar gyfer gweithdy Cymdeithas Cennau Prydain, ‘Pyrenocarps on Rock’, a gynhaliwyd yn y Blencathra Field Study Centre, Keswick, Cumbria, rhwng 26 Awst a 2 Medi 2006.
» Lawrlwythwch y canllaw hwn yma.
Noder bod hon yn ffeil sip fawr (6Mb) felly gall gymryd cryn amser i’w lawrlwytho. Os na allwch chi lawrlwytho’r ffeil fawr hon, cysylltwch ag Alan Orange.







