Rydych chi yn: Hafan > Amdanom ni > Gweithio gydag eraill > Cyfoeth Cymru Gyfan
English

Cyfoeth Cymru Gyfan

Oriel Ynys Môn, Llangefni
Oriel Ynys Môn, Llangefni
Amgueddfa Sir Gaerfyrddin
Amgueddfa Sir Gaerfyrddin
Amgueddfa Cas-gwent
Amgueddfa Cas-gwent
Oriel Gelf ac Amgueddfa Brycheiniog
Oriel Gelf ac Amgueddfa Brycheiniog

Lansiwyd y cynllun yn 2001 ac mae’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a’i weinyddu gan CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru. Nod y cynllun yw ehangu mynediad at y casgliadau cenedlaethol drwy alluogi amgueddfeydd lleol i greu partneriaethau cynaliadwy ag Amgueddfa Cymru. /p>

Drwy gynllun Cyfoeth Cymru Gyfan, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’r canlynol:


Adborth am y prosiect

Amgueddfa y Fenni yn derbyn Gwobr Rhannu Trysorau o £58,000 rhwng 2006 a 2008.

Ynghyd â nawdd ychwanegol gan Gyngor Sir Fynwy, galluogodd hyn i ni gynnal arddangosfa ‘Byd Heb ei Gyffwrdd: Artistiaid Capel y ffin - Eric Gill, David Jones ac Edgar Holloway’.

Canlyniad tymor byr/canolig y project oedd arddangosfa ddwyieithog o safon uchel o waith celf o bwysigrwydd cenedlaethol, a agorwyd gan Weinidog Cynulliad Cymru Alun Ffred Jones yn haf 2009 ac a ddangoswyd am dri mis.

Y canlyniad hir dymor yw oriel wedi’i hailwampio gyda chyfleusterau llawer gwell sy’n sicrhau gwell amodau cadw i’n casgliadau ein hunain a chyfle i fenthyg arteffactau uchel eu proffil yn y dyfodol.

Mae’r gallu i gynnal arddangosfeydd o bwysigrwydd cenedlaethol yn ein galluogi i ddenu cynulleidfa ehangach i’r amgueddfa a chynyddu ffigurau ymwelwyr. Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd oedd prif bartner y project.

Roedd y cynllun yn fodd o fenthyg gwrthrychau o’u casgliadau, ond roedd hefyd yn fodd o feithrin cysylltiadau ag adrannau eraill megis marchnata a chyhoeddusrwydd, ac adrannau technegol a chadwraeth.

Roedd y project yn gyfle i’r amgueddfa wneud gwelliannau sylweddol i’w chyfleusterau oedd yn cynnwys casys ac offer arddangos, goleuadau oriel, amodau amgylcheddol a diogelwch.

Derbyniodd yr arddangosfa gyhoeddusrwydd ar raddfa dipyn yn uwch nag y byddai’n bosibl i ni heb gynllun o’r fath. Llwyddom i ddenu ymwelwyr i’r arddangosfa na fyddai wedi ymweld â’r amgueddfa fel arall a llwyddom hefyd i gynyddu gwerthiant nwyddau.

Rachael Rogers, Amgueddfa Y Fenni