Peintio'r Amgueddfa'n Wyrdd
[delwedd: ]
[delwedd: Cynaliadwyedd]
Mae Amgueddfa Cymru yn Amgueddfa amlddisgyblaeth wedi’i gwasgaru dros wyth safle gwahanol. Drwy ddefnyddio arbenigedd staff a chyngor nifer o bartneriaid, rydym wedi bod wrthi yn ceisio deall amgylchedd yr amgueddfeydd yn well, y cynefinoedd y tu fewn i’r waliau a sut y gellir eu rheoli yn fyw cynaliadwy.
Dyletswydd Bioamrywiaeth
Mae Bioamrywiaeth yn un o anghenion creiddiol datblygiad cynaliadwy ac yn greiddiol i ddatblygiad a thwf economaidd. Mae ganddo rôl bwysig i chwarae wrth ddatblygu cymunedau sy’n unigryw i le a chymunedau cynaliadwy. Mae Adran 40 o Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 yn deddfu bod yn rhaid i dir ym meddiant y cyhoedd gael ei reoli i gynnal a gwella bioamrywiaeth. Fel rhan o ymateb yr Amgueddfa i’r ddeddf hon mae wedi cynnal arolwg bioamrywiaeth ar bob safle o’i heiddo. Nod yr arolygon yma yw darparu gwybodaeth am natur, lleoliad a nifer y cynefinoedd ar y safleoedd fel y gallwn gyfarwyddo penderfyniadau a gwneud gwaith cadwraeth yn effeithiol. Gellir gweld adroddiadau'r arolygon sydd wedi’u cwblhau yma.
Gwella ein Hamgylchedd
Yn ystod ‘Wythnos Genedlaethol y Goeden' yn 2009 roedd yr Amgueddfa’n rhan o broject 'Breathing Spaces' Tree o'clock y BBC. Plannodd aelodau o’r cyhoedd rywogaethau coed brodorol fel y ddraenen wen a’r gerddinen yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
2 sylw
James ar 10 Rhagfyr 2012, 20:29
What are the capacities (in kilowatts or megawatts) of the solar systems on the Big Pit and National Collection Centre? Are they 50 kilowatts each, as I've estimated? The figure of 5kV above isn't really clear!
Would appreciate some feedback on this!
Thanks.
Jenny Schofield ar 21 Mai 2012, 22:05
Is there a Museum of Sustainable Transport anywhere in the world?
Gadael sylw