Hyrwyddo Cynaladwyedd
Ein nod yw hyrwyddo byw yn gynaliadwy drwy ein harddangosfeydd, ein digwyddiadau a’n rhaglenni dysgu. Rydyn ni hefyd yn gweithio’n agos iawn â phartneriaid megis Cynnal Cymru a'r Ymddiriedolaeth Garbon.
SCAN
Project gan Amgueddfa Cymru yw SCAN sy’n cynorthwyo ysgolion i hyrwyddo Addysg Datblygu Cynaliadwy. Gall ysgolion, grwpiau addysgiadol a theuluoedd gymryd rhan mewn ymchwiliadau cyffrous neu lawrlwytho adnoddau am ddim. Gall grwpiau sy’n ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd hefyd archebu gweithdai ymlaen llaw.
Tŷ Gwyrdd – canolfan addysg
Ewch i dŷ ecolegol Sain Ffagan i ddysgu mwy am fyw’n gynaliadwy. Ar agor i bawb ar benwythnos 1af pob mis ac yn ystod gwyliau ysgol. Ar agor i grwpiau addysgiadol sydd wedi archebu ymlaen llaw yn ystod yr wythnos.
Archwilio Natur yn Sain Ffagan.
Mae Sain Ffagan yn lle gwych i archwilio Bywyd Gwyllt Cymru ac i weld rhai o’r anifeiliaid sydd fwyaf mewn perygl ym Mhrydain. Ewch i’n cuddfan adar ar y daith drwy’r goedwig neu gwyliwch ein gwyllt-gamerau i weld ystlumod, adar a mwy. Digwyddiadau a gweithgareddau i bawb ar benwythnos 1af pob mis ac yn ystod gwyliau ysgol.
Fel rhan o'r project Archwilio Natur yn Sain Ffagan comisiynwyd dwy ffilm natur. Cawsant eu ffilmio ar y safle llynedd. Mae'r ffilmiau terfynol nawr yn barod ac yn dangos ochr arall i'r Amgueddfa.
Mae'r ffilm gyntaf yn dangos y wledd o fywyd gwyllt sy'n byw ar dir yr Amgueddfa, tra bod yr ail yn canolbwyntio ar yr ystlumod pedol lleiaf sy'n byw yn y Tanerdy.
Arddangosfeydd
Bydd cynlluniau datblygu Amgueddfa Cymru yn gwneud cynaladwyedd yn greiddiol i’n negeseuon allweddol. Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, bydd datblygu Amgueddfa Genedlaethol Hanes Natur yn gwneud cyfraniad sylweddol i ddadleuon cyfoes am gynaladwyedd, newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth. Bydd rhyngberthynas dyn a’r amgylchedd naturiol hefyd yn un o’r themâu allweddol gaiff eu harchwilio yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
Bydd arddangosfeydd teithiol yn gyfle pellach i archwilio ein heffaith ar y byd. Mae ‘Bioamrywiaeth, Beth yn y Byd?’ yn ystyried budd bioamrywiaeth a’r bygythiadau sy’n ei wynebu. Mae ‘Newid yn yr Hinsawdd: Beth sy’n Digwydd?' [PDF] yn edrych ar achosion ac effeithiau posibl newid hinsawdd.
Trafnidiaeth gynaliadwy
Mae hyn yn cyfeirio at unrhyw fath o drafnidiaeth sydd ag effaith isel ar yr amgylchedd yn cynnwys cerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus effeithlon. Mae’r Amgueddfa wedi dechrau datblygu cynllun teithio â’r nod o:
- Annog staff ac ymwelwyr i ddefnyddio dulliau teithio cynaliadwy ar eu taith i’r Amgueddfa.
- Lleihau nifer y teithiau car.
- Codi ymwybyddiaeth o’r dewis o ddulliau teithio y gellid eu defnyddio i gyrraedd yr Amgueddfa.

Dangos sylwadau





