Ein Polisïau
[delwedd: ]
Mae Amgueddfa Cymru wedi datblygu polisïau creiddiol sydd â’r nod o wneud datblygiad cynaliadwy yn rhan o’i gweithrediad. Yn ogystal â hyn, ceir polisïau i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, a chynaladwyedd yn ein treftadaeth ddiwylliannol.
Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd
Mae safon Draig Werdd Llywodraeth y Cynulliad yn canolbwyntio ar gynaladwyedd sefydliad. Diolch i gefnogaeth ein staff, mae’r Amgueddfa yn ei chyfanrwydd bellach wedi cyrraedd Lefel 3 y safon hwn.
Creu Dyfodol Cynaliadwy Gyda’n Gilydd
Cymru yw’r unig genedl bron i fabwysiadu egwyddorion datblygu cynaliadwy fel egwyddor greiddiol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae Amgueddfa Cymru wedi mabwysiadu fframwaith polisi gweithredu ar ddatblygiad cynaliadwy o fewn y sefydliad ar sail hyn.
Polisi a Chynllun Gweithredu Caffael Cynaliadwy
Mae gan Amgueddfa Cymru ymrwymiad i gaffael yn gynaliadwy. Disgrifir caffael cynaliadwy yn aml fel prynu nwyddau neu wasanaethau mewn modd sy’n rhoi gwerth am arian ar sail bywyd yn ei gyfanrwydd.
Polisi Ynni
Mae’r ffaith bod Amgueddfa Cymru wedi mabwysiadu Polisi Ynni yn dangos cefnogaeth yr Amgueddfa i darged Llywodraeth Cynulliad Cymru a Llywodraeth y DU i leihau allyriant nwyon tŷ gwydr.
Pa mor llwyddiannus ydyn ni?
Yma fe welwch chi esiamplau o’n targedau ailgylchu a defnyddio ynni, archwiliadau Bioamrywiaeth a’n Tystysgrifau Ynni Adeiladau. Gellir gweld amlinelliad o’n cynnydd diweddar ar y fideo hwn gan yr Ymddiriedolaeth Garbon:
carbon_trust_museum.f4v
2 sylw
James ar 10 Rhagfyr 2012, 20:29
What are the capacities (in kilowatts or megawatts) of the solar systems on the Big Pit and National Collection Centre? Are they 50 kilowatts each, as I've estimated? The figure of 5kV above isn't really clear!
Would appreciate some feedback on this!
Thanks.
Jenny Schofield ar 21 Mai 2012, 22:05
Is there a Museum of Sustainable Transport anywhere in the world?
Gadael sylw