1789 ac eisteddfodau'r Gwyneddigion
Mae'r flwyddyn 1789 yn hollbwysig yn hanes yr Eisteddfod. Dyma ddechrau y cyfnod modern yn hanes yr Eisteddfod. Yr hyn ddigwyddodd yn syml yw fod Tomos Jones o Gorwen, y seismon oedd â diddordeb mawr ganddo fe yn yr eisteddfodau bach oedd wedi bod yn cael eu cynnal yn y tafarnau, mi anfonodd e at y Gwyneddigion, y gymdeithas honno o Gymry alltud yn Llundain, i ofyn iddyn nhw a wnelen nhw noddi'r Eisteddfod yng Nghymru oherwydd bod eisiau sefydliad cenedlaethol mae'n debyg, a fyddai'n gallu rhoi rhyw gymaint o urddas a safon unwaith eto i'r diwylliant Cymraeg. Ac fe gytunodd y Gwyneddigion.
Ond, wrth gwrs, roen nhw'n mynnu'r hawl hefyd i ddeddfu. Os oen nhw'n mynd i noddi mi roen nhw eisiau sicrhau fod yna reolau pendant wedi'u gosod lawr - er enghraifft, mi fydden nhw yn dewis beirniaid, mi fydden nhw hefyd yn dewis y prif destunau, mi fyddai disgwyl i'r beirdd i gystadlu dan ffug-enwau. Hynny yw, oedden nhw'n llunio glasbrint os mynnwch chi o'r math o Eisteddfod gystadleuol fodern ŷn ni bellach mor hen gyfarwydd â hi. Wel, Tomos Jones o Gorwen, yn fachgen drwg braidd, mi ddywedodd e bod y Gwyneddigion yn noddi yr Eisteddfod yng Nghorwen ym mis Mai 1789. Doen nhw ddim mewn gwirionedd. Ond ym mis Medi yr un flwyddyn, yn Y Bala, mi roedd y Gwyneddigion yn noddi. Ac yn yr Eisteddfod honno, testun y gadair oedd Ystyriaeth ar Oes Dyn.
Gwrandewch ar naratif fideo gyda Hywel Teifi Edwards (angen chwaraewr QuickTime):
- Modem [673KB]:
- Broadband [2.32MB]:
Nesaf:



