Dyfeisiadau - Addysg: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Hyd:
2 sesiwn hyd at 1 awr yr un.
Nifer:
2 grŵp o hyd at 30 disgybl.
Yn addas ar gyfer:
Cyfnod Allweddol 2.
Pwrpas:
Dysgu am ddyfeisiadau ac arloesi yng Nghymru.
Sesiwn Actor Cymeriadau:
Yn ystod y sesiwn dan arweiniad fore hon bydd y plant yn cyfarfod Mr Trevithick, actor cymeriadau fydd yn sôn wrthynt am ei ddyfais enwog — y trên stem gyntaf. Bydd y plant yn dysgu am yr hanes cyffrous ym Merthyr a thrafferthion Mr Trevithick yn ceisio gwneud i'w beiriant symud.
Gweithlyfr Peiriannau a Dyfeisiadau:
Yn ystod y sesiwn hon a arweinir gan athro bydd y dosbarth yn rhannu'n grwpiau (pob un dan arweiniad oedolyn) i gwblhau gweithlyfr am y peiriannau a'r gwaith arloesol enwog a ddigwyddodd yn niwydiant Cymru, heddiw ac yn y gorffennol.
Yn berthnasol i:
Hanes, gwyddoniaeth a Fframwaith Sgiliau.









