IGCP 469: Late Variscan terrestrial biotas and palaeoenvironments

IGCP

International Geological Correlation Programme

Fossil

Mae'r project pum mlynedd o hyd yma, a ddechreuodd tua canol 2003, yn edrych ar y newidiadau a welwyd mewn cynefinoedd paleotrofannol ar y tir tua diwedd yr Oes Mosgofaidd (Cyfnod Carbonifferaidd Hwyr tua 300 milion o flynyddoedd yn ôl. Yn ystod y cyfnod Mosgofaidd, roedd fforestydd tir gwlyb llawn cnwpfwsoglau anferth wedi lledi ar draws rhan helaeth o Ogledd America, Ewrop, Canolbarth Asia a Tsieina paleotrofannol. Tua diwedd y cyfnod Mosgofaidd, dirywiodd y cynefinoedd tir gwlyb hyn a diflannodd ardaloedd helaeth o'r fforest. Yr un pryd, gwelwyd nifer o newidiadau yn yr amgylchedd. Mewn rhannau o'r paleptrofannau, gwelwyd newydiadau mawr yn y tirwedd yn sgil y gwrthdaro rhwng platiau cyfandirol Gondwana ac Euramerica. Tua'r un cyfnod hefyd, cynhesodd yr hinsawdd ledled y byd, a doddodd lawer o'r capanau iâ.

Dyma rhai o'r newidiadau mwyaf i effeithio ar fywyd ar y ddaear erioed, ond ychydig iawn a wyddom ni am batrwm ac amseriad y newidiadau o hyd, nac am beth achosodd nhw. Nod y project yw tynnu data o bob math o ddisgyblaethau at ei gilydd. Bydd hyn yn cynnwys meysydd palaeobotaneg, palynoleg, palaeoswoleg a sedimentoleg, er mwyn ceisio gwella ein dealltwriaeth o batrwm a chyflymdra'r newidiadau amgylcheddol hyn ar draws y paleotrofannau.

Cyfarfodydd

Coal Swamp

Mae'r project yn troi o gylch cyfres o gyfarfodydd mewn gwahanol leoliadau ar draws ardal yr astudiaeth.

Ysgrifenyddiaeth

Uwch Gydlynydd y Project: Dr C. J. Cleal, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Caerdydd (E-mail form)

Cydlynydd y Project (Dwyrain Ewrop): Yr Athro Y. G. Tenchov, Sefydliad Daearegol Sofia (ytenchov@abv.bg)

Cydlynydd y Project (Canolbarth Ewrop): Dr S. Oplustil, Prifysgol Charles, Prague (oplustil@mail.natur.cuni.cz)

Cydlynydd y Project (Gorllewin Ewrop): Yr Athro B. A. Thomas, Prifysgol Cymru, Aberystwyth (bat@aber.ac.uk)

Cydlynydd y Project (G. America): Yr Athro E. L. Zodrow, Coleg Prifysgol Cape Breton, Sydney NS (erwin_zodrow@uccb.ca)

Gweinyddwraig y Project: Miss H. Fraser, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, Caerdydd (Ffurflen e-bost)

Cylchlythyrau

Aripa

Gellir lawrlwytho copïau o gylchlythyrau'r project fel ffeiliau pdf.

Cysylltiadau eraill

Hafan IGCP http://www.unesco.org/science/earthsciences/igcp/

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.