Ymddiriedolwyr
Elisabeth Elias MA DL
Ymddiriedolwr (Llywydd)
Astudiodd Elisabeth Elias y Gyfraith yng Ngholeg Santes Hilda, Rhydychen, ac ymgymwysodd fel bargyfreithiwr. Yn y cyfnod 2000-2007 roedd yn Gadeirydd y Cyngor i Ymddiriedolaeth Ysgol Dydd y Merched, sefydliad sy'n gyfrifol am 26 ysgol annibynnol i ferched ac yn un o'r elusennau mwyaf ym Mhrydain. Tan yn ddiweddar, bu'n Gadeirydd Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru a bu'n aelod o Fwrdd Prifysgol Morgannwg rhwng 2000 a 2010. Bu'n gwasanaethu fel aelod (a enwebwyd dros Gymru) ar Bwyllgor Ymgynghorol Nawdd Cymdeithasol o 1996 hyd 2005 a bu'n Gadeirydd Pwyllgor Lleol ar Foeseg Ymchwil ac yn aelod anweithredol ar Fwrdd Awdurdod Iechyd Cymru er Gwasanaethau Cyffredin o 1995 hyd 1999. Bu'n ynad am ddeunaw mlynedd nes 2000.

J. Peter W. Morgan M.Sc. FCA
Ymddiriedolwr (Trysorydd)
Bu Peter yn Gadeirydd a Phrif Weithredwr i wneuthurwyr linteli dur mwyaf y byd. Cafodd ei benodi’n Ymddiriedolwr ar 1 Ionawr 2007, a dechreuodd ei rôl fel Trysorydd ym mis Hydref 2007.
Cafodd Peter ei eni ym Mhenarth, ac fe ddaeth yn Gyfrifydd Siartredig ym 1970. Ar ôl cymryd MBA, aeth i weithio ym maes bancio masnachol, gwasanaethu olew môr y Gogledd a thecstilau. Yn hwyr yn y 1970au daeth Peter yn ôl i Gymru i ymuno â Catnic Lintels, ac wedi i’r cwmni gael ei brynu gan y Rio Tinto Corporation, daeth yn Brif Weithredwr, ac yna’n Gadeirydd ar Grŵp Catnic o gwmnïau.
Yn ystod ei yrfa, mae Peter wedi bod yn gyfarwyddwr anweithredol ar nifer o gyrff masnachu ac i’r Building Research Establishment wrth iddo gael ei breifateiddio. Mae o hefyd wedi bod yn Ymddiriedolwr i’r Sefydliad Datblygu Cymunedol, yn Gyfarwyddwr TEC Morgannwg Ganol, Gŵyl Erddi Cymru, Busnes yn y Gymuned, ac wedi bod yn aelod o Bwyllgor Cymdeithas Caeau Chwarae Cenedlaethol Cymru er 1997. Daeth yn Rhyddfreiniwr Dinas Llundain ym 1997. Mae Peter wedi bod yn aelod o Bwyllgor Archwilio Amgueddfa Cymru er 2001 ac yn Gadeirydd ar y pwyllgor hwnnw er 2005.

Dr Haydn Edwards
Ymddiriedolwr (Is-Lywydd)

Dr Iolo ap Gwynn
Ymddiriedolwr
Mae Iolo yn Uwch Ddarlithydd yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Prifysgol Cymru. Mae ei gyfraniad at ysgolheictod wedi bod yn anferth diolch i'w waith wrth hybu ac hyrwyddo trafodaeth am wyddoniaeth yn Gymraeg. Mae ganddo gariad mawr at bopeth gwleidyddol a diwylliannol.
Mae'n gwasanaethu ar Banel Gwyddorau'r Amgueddfa ar hyn o bryd.

Yr Athro John William Last CBE
Ymddiriedolwr
Athro teithiol yn Adran Polisi a Rheoli'r Celfyddydau ym Mhrifysgol Dinas Llundain ers 1986, mae hefyd yn dysgu gradd MA Ôl-raddedig mewn Rheoli Amgueddfeydd ac Orielau.
Enillodd Ddoethuriaeth Llên gan Brifysgol Dinas Llundain am ei wasanaeth i Reolaeth Amgueddfaol (Honoris Causa) yn Rhagfyr 1995. Bu'n aelod o Gomisiwn Amgueddfeydd ac Orielau y DU (sef prif ymgynghorydd ar amgueddfeydd i Lywodraeth y DU) o 1983 i 1995, Ymddiriedolwr Amgueddfa Victoria ac Albert o 1980 i 1984 ac yn Ymddiriedolwr i Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Glannau Mersi o 1986 i 1999.
Rhwng 1990 a 1997, bu'n Gadeirydd ar y Sefydliad Hyfforddi Amgueddfaol, bellach Sefydliad Hyfforddi Cenedlaethol Treftadaeth Ddiwylliannol y DU. Ym 1989, enillodd CBE am wasanaethau i Amgueddfeydd ac Orielau yn y DU, ac ym 1987 fe'i gwnaed yn Gymrawd Anrhydeddus o Gymdeithas yr Amgueddfeydd.
Fe raddiodd o Brifysgol Rhydychen mewn Gwleidyddiaeth, Athroniaeth ac Economeg ym 1961.

Gareth Williams
Ymddiriedolwr
Ar ôl rhedeg gyrfa lwyddiannus am dri deg pump o flynyddoedd ym maes adwerthu a’r diwydiannau gwasanaeth yn y DU, America a’r Dwyrain Canol, gan gynnwys swyddi Prif Swyddog Gweithredol a chyfarwyddol, penderfynodd Gareth a’i wraig ymddeol yn ôl i dde Cymru yn 2002. Mae gan Gareth bortffolio o rolau cadeirydd, cyfarwyddwr anweithredol a chynghori. Mae’r rhain yn cynnwys Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Cyngor Sgowtiaid Cymru, Cadeirydd Netalogue plc, aelod o Bwyllgor Rheoli Cymru ar gyfer Sefydliad y Cyfarwyddwyr a Llywodraethwr ym Mhrifysgol Bro Morgannwg.
Cafodd Gareth Williams ei eni a’i fagu yng Nghaerdydd. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Caerdydd a Phrifysgol Caerwysg.

Carole-Anne Davies
Ymddiriedolwr

Christina Macaulay
Ymddiriedolwr

Athro Emeritws Richard Gareth Wyn Jones CCDdC
Ymddiriedolwr

Miriam Hazel Griffiths MA
Ymddiriedolwr

Yr Athro Jonathan Osmond
Ymddiriedolwr

David Beresford Vokes
Ymddiriedolwr
Cymraeg i ddod.
David Beresford Vokes is a solicitor and commercial lawyer by training and for the last 15 years of his professional life was involved in the establishment and management of the law firm Eversheds. Mr Vokes is a governor of Atlantic College and has been a council member of the Arts Council of Wales since 2004. This post, which comes to an end on 31 March 2010, is unpaid and he holds no other Ministerial public appointments. He has recently been appointed as a Trustee of Age Cymru.

Yr Athro Tony Atkins
Ymddiriedolwr
Cymraeg i ddod.
Professor Tony Atkins grew up in Cardiff, and was a member of the National Youth Orchestra of Wales. He studied at Cardiff and Cambridge, worked in industry and taught at Oxford and the University of Michigan, Ann Arbor. A Fellow of the Royal Academy of Engineering, he is Visiting Professor at Imperial College and an Emeritus Professor of Reading University, where he served on the Board of the Museum of English Rural Life. He is very interested in industrial archaeology and the history of engineering. Married with three children, he is a Churchwarden of St Michael’s & All Angels at Inkpen (Berks). He holds no other Ministerial public appointments.

Victoria Mary Provis
Ymddiriedolwr
Cymraeg i ddod.
Victoria Mary Provis is a native of Cardiff. After an early career in corporate communications and professional services marketing, Victoria moved into executive search in 1993. She has been a Partner at Odgers Berndtson in London since 1995 and specialises in leading corporate communications and board-level appointments (both executive and non-executive) across the UK and Continental Europe. She opened the firm’s Cardiff office in 2005 and remains a Non-Executive Director. Dividing her time between London and St Davids, Victoria is also a member of the Council of Prince’s Trust Cymru and a Member of Glas Cymru. She is also a former Vice-Chair of the Board of Atlantic College.

Keshav Singhal
Ymddiriedolwr
Cymraeg i ddod.
Mr Keshav Singhal is a Consultant Orthopaedic Surgeon working at the Princess of Wales Hospital, Bridgend and the Neath Port Talbot Hospital. He initially trained in India and subsequently finished his specialisation in the Midlands after which he took up his current job in Wales in 1996. He is the Chair of the HCA (Wales) and India Centre, Cardiff and is actively engaged in promoting and introducing arts and culture from the Indian Subcontinent to Wales and finding synergies and similarities between the two cultures. He is involved in promoting intercultural and interfaith dialogue and harmony. He is married with two sons.








