Celf ar ôl Cézanne: Y ‘Cyntefig’ a’r Modern - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Cynnyrch chwyldroadol Paul Cézanne a darganfod celf ‘gyntefig’ – rhai o’r dylanwadau a arweiniodd at ddatblygu celf fodern yn Ewrop.
Cafodd paentiadau Cézanne ddylanwad aruthrol ar artistiaid ddechrau’r ugeinfed ganrif.
Enillodd ei blwyf gyda’i dechneg brwsio rydd ac argraffiadol, a diolch i esiampl Cézanne anogwyd artistiaid avant garde i ddefnyddio mwy o strwythur yn eu gwaith.
Defnyddiodd ei baentiadau i awgrymu ffyrdd y gallai elfennau ffurfiol gwaith celf – ffurf, lliw, llinell a gwead – fod yn bwysig ac yn llawn mynegiant eu hunain. Nid oedd rhaid i gelf adrodd stori neu gyfleu realaeth mwyach.
Dechreuodd artistiaid droi cefn ar y traddodiadol, a chwilio am ysbrydoliaeth mewn celfyddyd ‘gyntefig’ gan gynnwys cerflunwaith Affricanaidd, celf gwerin Ewropeaidd a chelf plant.
Roeddynt yn edmygu’r ffaith bod y ffurfiau hyn yn ffafrio dulliau mynegiant mwy uniongyrchol ar draul naturoliaeth.
Cafodd celf y gorllewin hwb o’r newydd, diolch i ddylanwad Cézanne a’r cysylltiadau ‘cyntefig’.
Arweiniodd hynny at gryn arloesi fel datblygu Ciwbiaeth a datblygiad celf haniaethol maes o law.


Lleoliad:
Oriel 14Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd







