Cyfarwyddwyr
David Anderson
Cyfarwyddwr Cyffredinol
Penodwyd David Anderson yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru yn 2010. Cyn hynny, roedd yn Gyfarwyddwr Addysg Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain ac wedi dal sawl swydd ym myd addysg amgueddfeydd cyn hynny. Mae’n arbenigwr ar strategaeth ddiwylliannol ac addysg gelf.
Derbyniodd OBE ym 1999 am ei wasanaeth i amgueddfeydd ac addysg. Mae wedi cyhoeddi sawl cyfrol yn cynnwys adroddiad Llywodraeth y DU "A common Wealth: Museums in the Learning Age". Mae wedi bod yn ymgynghorydd i Lywodraeth y DU ar ystod eang o Fentrau yn cynnwys Culture On-Line, Creative Partnerships a strategaeth genedlaethol addysg amgueddfeydd ac orielau. Mae’n awdur llyfrau poblogaidd i blant hefyd, "The Spanish Armada" a "Mutiny on the Bounty". O 2004 i 2008 roedd hefyd yn Gyd-Gyfarwyddwr Exhibition Road Cultural Group, ardal ddiwylliannol gyntaf Llundain.

Mark Richards
Cyfarwyddwr Gweithredu a Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol
Mark Richards yw Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol a Chyfarwyddwr Gweithredol, yng ngofal rheoli holl safleoedd yr Amgueddfa, Mentrau ac Adeiladau ac Ystadau. Ef yw’r arweinydd ar faterion Cynaladwyedd a Iechyd a Diogelwch yn ogystal â bod â chyfrifoldeb am rai o brosiectau datblygu mwyaf Amgueddfa Cymru. Mae hefyd yn gyfrifol am weithio gyda’n Adran Nawdd o fewn Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae’n aelod Corfforaethol o Sefydliad Siartredig Adeiladu.
John Williams-Davies
Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil
Ymunodd John Williams-Davies â’r Amgueddfa ym 1973. Cyflawnodd amryw o swyddogaethau curadurol yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru cyn dod yn Gyfarwyddwr Gweithredu Cynorthwyol a Chyfarwyddwr Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru wedi hynny. Mae ei gyfrifoldebau fel Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil yn cynnwys datblygu casgliadau'r Amgueddfa a'i gweithgareddau ymchwil a gofalu amdanynt. Mae hefyd yn arwain Project ailddatblygu Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
Mae ei brofiad curadurol yn bennaf ym meysydd amaethyddiaeth a’r economi wledig. Bu’n Llywydd ar Gymdeithas Astudiaethau Bywyd y Werin, aelod o fwrdd Cymdeithas Amgueddfeydd Awyr Agored Ewrop a Chymrodor Cymdeithas Hynafiaethwyr Llundain.
Robin Gwyn
Cyfarwyddwr Cyfathrebu
Daeth Robin Gwyn i’w swydd fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu yn Amgueddfa Cymru yn 2001. Bu’n gweithio fel golygydd i gylchgrawn Golwg (yr unig gylchgrawn materion cyfoes wythnosol cenedlaethol), ac fe dreuliodd bum mlynedd yn gweithio fel Uwch Swyddog y Wasg a Phennaeth Cyfathrebu a Materion Corfforaethol gyda Bwrdd Croeso Cymru.
Mae cyfrifoldebau Robin Gwyn yn cynnwys Materion Cyhoeddus, y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Marchnata, Cyhoeddiadau, Dylunio, y We a’r Cyfryngau Newydd. Ef hefyd sy’n arwain ar faterion Prif-ffrydio’r Gymraeg, Rhyddid Gwybodaeth a Diogelu Data.
Neil Wicks
Cyfarwyddwr Cyllid
Ymunodd Neil Wicks ag Amgueddfa Cymru ym mis Mehefin 2011. Ac yntau’n gyfrifydd cymwysedig ers dros ugain mlynedd, gweithiodd Neil mewn sawl rôl yn y sectorau cyhoeddus a phreifat cyn treulio deng mlynedd yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau a Gwasanaethau Corfforaethol Cyngor Gofal Cymru, gan weld cynnydd yn nhrosiant y corff cyhoeddus o £1.5m i £10m.
Mae Neil yn gyfrifol am gyllid, gan gynnwys trosiant cyfrifon y sefydliad o £29m, adnoddau dynol a TGCh. Mae Neil yn aelod o Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg, ac yn Gomisiynydd Ardal Mudiad Sgowtiaid Gogledd a Gorllewin Caerdydd, gan gynrychioli'r Ardal yn Rhanbarthol ac yn Genedlaethol. Mae wedi dysgu siarad Cymraeg ac yn astudio tuag at MBA.








