Geirfa

Rhaglen Beisfannau Capricorn

fel rhan o Raglen Beisfannau Capricorn


Geirfa

beisfannau
dyfroedd bas
benthig
gwely môr
benthos
organebau byw gwely môr
cytraseg
dull o ddosbarthu sy'n casglu organebau at ei gilydd ar sail diweddaredd tras gyffredin
offer tyrchu
offer ar gyfer samplu gwely môr
epiffawna
anifeiliaid yn byw ar wely môr
offer crafangu
offer ar gyfer sicrhau sampl o ardal benodol o wely môr
rhynglanw
rhwng marc penllanw a marc distyll
macroffawna
anifeiliaid yn fwy na 500 micron
megaffawna
anifeiliaid mawr
meiomilod
anifeiliaid yn llai na 500 micron
molwsg
anifail a chanddo gorff meddal; mae nifer ohonynt yn byw y tu mewn i gragen galed, megis malwoden, cragen fylchog, cragen las
ffylogenedd
hanes esblygol a thras rhywogaeth neu grŵp tacsonomig uwch
polycetiaid
dosbarth o fwydod (mwydod gwrychog) morol yn bennaf
systemeg
astudiaeth o dacsonomeg a ffylogenedd
tacsonomeg
y dull o ddosbarthu organebau byw
tymherus
ardaloedd a chanddynt hinsawdd gymhedrol, megis Ewrop
trofannol
ardaloedd a chanddynt hinsawdd wedi ei nodweddu gan dymeredd, lleithder a glawiad uchel
sŵoddaearyddiaeth
dosbarthiad daearyddol gwahanol rywogaethau o anifeiliaid
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.