Beth yw Bioamrywiaeth?

Rhaglen Beisfannau Capricorn

fel rhan o Raglen Beisfannau Capricorn


Beth yw Bioamrywiaeth?

'Bioamrywiaeth' yw'r gair a ddefnyddiwn pan fyddwn yn sôn am 'amrywiaeth pethau byw'. Y mae'r amrywiaeth hwn yn hanfodol gogyfer â'n hiechyd, ein ffyniant a'n lles.

Rydym yn cael ein bwyd o amryw fathau o anifeiliaid a phlanhigion, ac rydym yn darganfod cyffuriau newydd a phwerus yn y fforestydd a'r môr yn barhaus.

Ocypodid

Rydym yn dal i ddarganfod rhywogaethau newydd o blanhigion ac anifeiliaid: prin yw'r rhai y gwyddom rywbeth am eu ffordd o fyw, am eu harferion, am eu hoff bethau a'u perthynas â'i gilydd. Os ydym am ddeall y cymhlethdod, y mae'n rhaid inni adnabod y darnau unigol sy'n rhannau hanfodol ohono, rhaid inni ddeall yr amrywiaeth a'r bioamrywiaeth sydd ynddo.

Tripleurospermum maritimum

Rhaid inni ddeall hefyd y berthynas sydd rhwng y gwahanol rywogaethau a'i gilydd, nid yn unig yn eu hymwneud â'i gilydd fel bodau byw (e.e.y cydberthynas rhwng pryfed a blodau o bob math) ond hefyd hanes eu hesblygiad.

Amgueddfa Cymru — National Museum Wales