Arolwg Bioamrywiaeth Forol Cefnfor India

Rhaglen Beisfannau Capricorn

fel rhan o Raglen Beisfannau Capricorn


Tacsonomeg

Llong

Mae gan Adran Bioamrywiaeth a Bioleg Gyfundrefnol (BioSyB) Amgueddfa Genedlaethol Cymru arbenigedd a gydnabyddir yn rhyngwladol yn nhacsonomeg a systemeg y Molysgiaid (Dr Graham Oliver) a'r Polycetiaid (Dr Andrew Mackie). Bwriadwn gasglu sbesimenau o'r ddau grŵp milodol drwy gasglu rhwng penllanw a distyll, samplu gyda chymorth offer crafangu, tyrchu a threillio wedi eu rheoli o Long Pysgodfeydd y Seychelles, a gan nofwyr tanddwr. Bydd Dr Mackie hefyd yn cydweithredu â'r Athro Westheide (Prifysgol Osnabr?ch, Yr Almaen), arbenigwr rhyngwladol ar fwydod gwrychog meiomilodol, sydd yn ymweld â'r Seychelles ar ei liwt ei hun ym mis Mawrth. Yn ogystal, bwriedir cydweithredu ag arbenigwyr ar "ffawna marw" (cregyn ac ati), sef Dr Martin Zuschin (Prifysgol Wien) a'r Athro Susan Kidwell (Prifysgol Chicago)

Worm dig

Nod cyntaf y gwaith yw llunio rhestr o'r rhywogaethau a ddarganfyddir. Yn dilyn astudiaethau mwy manwl, ymgymerir ag astudiaethau tacsonomig a chyhoeddir erthyglau gwyddonol mewn cylchgronau rhyngwladol cydnabyddedig. Bydd yr astudiaethau hyn hefyd yn helpu i wella ein dealltwriaeth (wael) o sŵoddaearyddiaeth mwydod gwrychog. Gallai'r Seychelles, ynysoedd wedi eu lleoli oddi ar arfordir dwyreiniol Affrica a de-orllewinol India, gynnig golwg werthfawr ar ddosbarthiad polycetiaid yng Nghefnfor India a'r ardaloedd Indo-Pasiffig yn benodol.

Textile

Caiff sbesimenau eu cadw yn rhan o'r casgliadau o folysgiaid a mwydod gwrychog yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, gwneir trefniadau i gyflwyno defnydd cynrychioliadol i ofal sefydliad addas yn y Seychelles yn y dyfodol.

Y mae ym meddiant AOCC gasgliadau a wnaed yn ystod cyfnod yr Ymerodraeth Brydeinig (y bedwaredd ganrif ar bymtheg) ac mae'r rhain yn cynnwys sbesimenau o Gefnfor India. Ymdrinnir â'r rhain mewn llyfrau a gyhoeddwyd bryd hynny ac mae nifer ohonynt yn ein llyfrgell. O'r herwydd mae AOCC yn gymwys i gydweithredu ac i helpu datblygu arbenigedd yn ardal Cefnfor India.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.