Llyfrgell Glowyr De Cymru - 'Milltir Euraid' Abertawe Ar Gyfer Gwaith Ymchwil I Dreftadaeth Ddiwydiannol
[delwedd: South Wales Miners' Library]
Sefydlwyd Llyfrgell Glowyr De Cymru ym 1973 ac mae'n adnodd amrywiol a chynhwysfawr ar gyfer pobl sy'n ymchwilio i hanes a threftadaeth Maes Glo De Cymru. Mae'r casgliad yn cynnwys llyfrau, pamffledi, cyfnodolion, cyfeirlyfrau masnach a dyddiaduron, posteri, hanesion llafar, fideos a baneri sy'n gysylltiedig â hanes cymdeithasol, diwylliannol, addysgol a gwleidyddol Maes Glo De Cymru.
5 Mae'r llyfrgell yn ategu amrywiaeth eang o gyrsiau Adran Addysg Barhaus i Oedolion Prifysgol Abertawe, ac mae'n cynnwys casgliad helaeth o ddeunyddiau sy'n ymwneud â hanes lleol.
Mae'r llyfrgell yn agored i bawb ac mae'r staff bob amser yn fodlon helpu gydag ymholiadau a chynnig cyngor. Nid oes angen apwyntiad.
Amserau agor
Yn ystod y tymor
Dydd Llun i ddydd Iau: 9am-8pm
Dydd Gwener a Sadwrn: 9am-5pm Dydd Sul: Ar gau
Gwyliau
Dydd Llun i ddydd Gwener: 9am-5pm
Dydd Sadwrn a Sul: Ar gau
I gysylltu
Ffôn: (01792) 518603/518693
E-bost: miners@swansea.ac.uk
Gwefan
www.swansea.ac.uk/lis/library/libraries/swml
Cyfeiriad
Gower Road, Abertawe, SA2 7NB