Archifau Richard Burton Prifysgol Abertawe - 'Milltir Euraid' Abertawe Ar Gyfer Gwaith Ymchwil I Dreftadaeth Ddiwydiannol

Archifau Richard Burton yw cartref casgliadau archif Prifysgol Abertawe. Lleolir yr archifau yn y llyfrgell a'r ganolfan wybodaeth ar gampws Singleton Prifysgol Abertawe. Dyma brif gryfderau'r archifau:
Archifau lleol: sy'n cynnwys archifau busnes diwydiannau metel a pheirianneg Abertawe a'r cylch a Rheilffordd y Mwmbwls, cofnodion Methodistaidd cylch Abertawe a phenrhyn Gŵyr a chofnodion plwyf Priordy Dewi Sant.
Casgliad Maes Glo De Cymru: cofnodion yr NUM (Ardal De Cymru) a'i ganghennau neu gyfrinfeydd, Sefydliadau'r Glowyr a ffotograffau a chasgliadau personol unigolion o bob rhan o Faes Glo'r De.
Casgliadau llenyddol: yn enwedig cofnodion am lenyddiaeth Gymreig yn Saesneg.
Cofnodion y Brifysgol: cofnodion y Brifysgol o adeg ei sefydliad ym 1920 ymlaen.
Mae'r archifau'n agored i bawb ac mae'r staff bob amser yn barod i ateb ymholiadau a chynnig cyngor. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw trefnu apwyntiad.
Amserau agor
Dydd Llun i ddydd Gwener: 9.15am-1pm a 2-4.45pm
Nos Fawrth yn ystod y tymor drwy drefniant ymlaen llaw
I gysylltu
Ffôn: (01792) 295021
E-bost: archives@swansea.ac.uk
Gwefan
www.swan.ac.uk/lis/historicalcollections/Archives/
Cyfeiriad
Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP







