Ymweld - Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Un o'r amgueddfeydd awyr agored pwysicaf yn Ewrop, yn cynrychioli bywyd a diwylliant Cymru, ac wedi'i lleoli mewn 100 erw o barcdir.
Oriau Agor y Gaeaf 2012
Mae Castell Sain Ffagan ar gau tan y gwanwyn oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ond mae gweddill yr Amgueddfa ar agor fel arfer. Bydd Ystafell De Gwalia ar gau tan wyliau hanner tymor yr ysgolion ym mis Chwefror ond mae Cafe Bardi a Bwyty'r Fro ar agor. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Ar agor
10.00 am - 5.00 pm bob dydd.
Ar agor bob Dydd Llun Gŵyl Banc.
Mynediad am ddim!
Lleoliad
4 milltir i'r Gorllewin o Ganol y Ddinas, Caerdydd.
Os ydych yn defnyddio teclyn llywio â lloeren, defnyddiwch y cod post CF5 6XB.
Cyfeiriad
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Caerdydd
CF5 6XB
Ffôn: (029) 2057 3500
Ffacs: (029) 2057 3490
Ebost ni
Mae tir Sain Ffagan yn ymestyn dros 100 erw i gyd, gyda nifer o adeiladau yn yr ardal awyr-agored. Er bod yr amser y bydd ymwelwyr yn ei dreulio ar y safle yn amrywio, rydym yn argymell eich bod yn gadael 2 - 4 awr ar gyfer eich ymweliad.
Mynediad

Bws
Mae'r Amgueddfa 20 munud ar fws o ganol dinas Caerdydd. Mae bysiau yn rhedeg rhwng Gorsaf Fysiau Ganolog Caerdydd a Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru drwy gydol y flwyddyn. Mae'r rhan fwyaf o fysiau yn aros ger prif fynedfa'r Amgueddfa, ac mae cysgod i deithwyr yno. Gweler yr amserlen gyfredol.
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0871 200 22 33 (codir tâl o 10c y funud o ffon cartref).
Trên
Parc Waungron yw'r stesion drenau agosaf, 2 filltir o Sain Ffagan. Rhedir y gwasanaethau gan Trenau Arriva Cymru. Mae Parc Waungron ger y brif lwybr bysiau i Sain Ffagan. Ewch i Traveline Cymru i drefnu'ch siwrnai. Ewch i Traveline Cymru i drefnu’ch siwrnai.
- Gallwch weld yr amserlen trenau yn www.nationalrail.co.uk neu drwy ffonio 0845 7 48 49 50.
- Trenau Arriva Cymru www.arrivatrainswales.co.uk Ffôn 0845 606 1660.
Beic
Llwybr Elái yw'r prif lwybr beiciau i'r Amgueddfa o ganol dinas Caerdydd. Mae arwyddion ar y cymal rhwng y Tyllgoed a’r Amgueddfa, cymal heb draffig yn dilyn llwybr tawel ar hyd yr afon.
- Gweld Taflen Wybodaeth Taith Elái.
- Ewch i Keeping Cardiff Moving am ragor o wybodaeth am Feicio yng Nghaerdydd.
- Mae Map Beicio Caerdydd yn argymell rhwydwaith o lwybrau i feicwyr, yn cynnwys llwybrau heb draffig neu gyda pheth traffig arnynt.
- Defnyddiwch Gynllunydd Taith Feicio Transport Direct i gynllunio’ch siwrnai.
Beth am ystyried beicio i'r Amgueddfa o orsaf drenau Parc Waungron ar hyd cymal 2 filltir o Lwybr Elái?
Gallwch chi gloi eich beic yn un o'n llochesi beiciau yn y brif fynedfa, maes parcio a gaiff ei wylio gan staff diogelwch. Gellir darparu loceri ar gais i'r sawl sydd am gadw offer. Gofynnir am flaendal o £2 a gaiff ei ddychwelyd wrth adael. Holwch wrth y dderbynfa.
Cerdded
Mae nifer o gylchdeithiau cerdded pleserus ar gael yng nghyffiniau'r Amgueddfa. Mwynhewch y golygfeydd wrth grwydro'r ardal fel rhan o'ch ymweliad â'r Amgueddfa.
- Taith Gerdded Traws Ffiniol Cwm Elái – Cylchdaith Sain Ffagan – Sant Siôr.
- Sain Ffagan – Cylchdaith.
Car neu Fws
Ceir arwyddion am yr Amgueddfa o gyffordd 33 Traffordd yr M4, gyda mynediad uniongyrchol o’r A4232.
- Gweld Newyddion Traffig y BBC.
- Trefnwch eich taith gyda Routeplanner yr RAC.
Ydych chi wedi ystyried rhannu car? Os ydych chi’n chwilio am gwmni, am arbed arian ar danwydd neu leihau eich ôl troed carbon, gallech chi ganfod rhywun i rannu'ch siwrnai. Ymunwch â chynllun rhannu ceir lleol am ddim yn www.sewtacarshare.com.
Codir tâl o £3.50 y diwrnod ar bob car mewn mannau Talu ac Arddangos. Gellir prynu tocyn tymor 12 mis gwerth £15 o Dderbynfa'r Amgueddfa. Ni chodir tâl ar ddeiliaid bathodynnau anabl na beiciau modur.
Grwpiau
RHAID i bob grŵp archebu cyn ymweld.
I archebu neu gael manylion pellach cysylltwch trwy'r dulliau canlynol:
Ffôn: (029) 2057 3500
E-bostwch ni
Gall grwpiau sy’n archebu ymlaen llaw fanteisio ar:
- Fynediad am ddim
- Gostyngiad o 10% yn y caffi a'r bwyty os ydych yn gwario mwy na £5 y pen
- Gostyngiad o 10% yn siop yr Amgueddfa os ydych yn gwario mwy na £5
- Lluniaeth am ddim i yrwyr bysiau
Gwelwch ein Llyfryn Ymweliadau Grŵp ynglyn a saith amgueddfeydd Amgueddfa Cymru.
Sylwer: ni all grwpiau addysgiadol hawlio gostyngiad yn y bwytai a'r siopau. Ein polisi yw bod yn rhaid i unrhyw blentyn o dan 14 oed fod yng nghwmni oedolyn.
Cyfleusterau ar gyfer Ymwelwyr
Ble i fwyta
Paratoir lluniaeth yn yr Amgueddfa Werin gan Elior yn y lleoliadau canlynol.
- Bwyty’r Fro, yn y prif-adeilad rhwng 10 y bore a 3 y prynhawn.
Cinio cartref, brechdanau, cacennau, diodydd twym ac oer. - Café Bardi, ar y llawr gwaelod yn y prif adeilad rhwng 10 y bore a 4.30 y prynhawn.
Brechdanau, cawl, cacennau, diodydd twym ac oer. - Ystafell De Gwalia, uwchben Siop Gwalia yn gweini te prynhawn traddodiadol rhwng 11 y bore a 4 y prynhawn.
- Bwtri'r Castell – yn agor eto yn y Gwanwyn.
Mae sawl ardal i fwyta tu allan yn yr awyr agored ar y safle ac y mae Popty'r Dderwen yn gwerthu bara a byrbrydiau eraill
Nodwch bod yna beiriant arian ar y safle..
Note:
Ni chaniateir cŵn yn yr adeiladau hanesyddol, ond caniateir cŵn tywys.
Cyfleusterau i'r anabl
Mynediad i gadeiriau olwyn. Sesiynau trin a thrafod. Mapiau cyffyrddol a thaflenni gwaith mewn braille i rai â nam ar eu golwg. Toiledau i'r anabl mewn dau le ar y safle. Mannau parcio i'r anabl yn y brif fynedfa. Gostyngiad ar dâl mynediad.







