The Devil's Hand
Enw: The Blood Red Sun
Artistiad: The Devil's Hand
Meithder: 7:30
Rhagolwg:
» Lawrlwytho'r holl trac [10.8mb, MP3]
Bywgraffiad

Mae'r Devils Hand yn fand o Gaerdydd sy'n chwarae ar sawl ffurf. Dylanwadwyd arnynt gan ddeugain mlynedd o gerddoriaeth fetel o Sgandinafia drwy Birmingham i'r Amerig.
Maent yn canu caneuon am ochr dywyll hanes, brwydrau a gwrachyddiaeth ac wedi perfformio ar yr un llwyfan â bandiau megis Orange Goblin, Circle a Noxagt.
Ysbrydolwyd y gân a ysgrifennwyd ganddynt ar gyfer Amgueddfa Cymru gan feddi pobl Cymru a adawyd yn sgil y Llychlynwyr cyn chwyldro Hywel Dda.
Nhw oedd yr unig bobl ym Mhrydain a wrthsafodd oresgyniad y Llychlynwyr.
Ysbrydoliaeth

Datgelodd cloddiadau Amgueddfa Cymru ar safle anheddiad canoloesol cynnar yn Llanbedr-goch, Ynys Môn fanylion am fywyd yng Nghymru yn y 9fed a’r 10fed ganrif.
Ym 1998, gwnaed darganfyddiad annisgwyl ar ochr orllewinol yr anheddiad. Darganfuwyd pum sgerbwd dynol ar lefel uchaf ffos oedd wedi cael ei llenwi, yn union y tu allan i'r mur amddiffynnol a amgylchynai’r anheddiad. Mae technegau gwyddonol wedi ei wneud yn bosib ail-greu wynebau pedwar o’r trigolion gan ddefnyddio’u penglogau. Mae’r ail-greadau hyn ar ddangos yn yr oriel Gwreiddiau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae’n ymddangos iddynt gael eu claddu’n ddiseremoni mewn beddi bas. Claddwyd tri o’r cyrff ar eu pennau eu hunain, ond roedd yna un claddedigaeth ddwbl lle taflwyd corff un dyn (tua 25-35 oed) ar ben corff plentyn (tua 10 – 15 oed). Mae'n bosib bod breichiau'r dyn wedi cael eu clymu y tu ôl i'w gefn, ac iddo gael ei daro yn ei lygad chwith â rhywbeth miniog.
Mae sgerbydau Llanbedr-goch yn dyddio o ail hanner y 10fed ganrif - cyfnod pan roedd Llychlynwyr Ynys Manaw yn rheoli Gwynedd i bob pwrpas - ac mae'n bosibl y bu canolfannau Llychlynaidd ar Ynys Môn hefyd. Mae amgylchiadau'r claddu, a'r ffaith na chyfeiriwyd y cyrff yn y ffordd Gristnogol yn awgrymu hwyrach i'r unigolion hyn farw mewn cyrch ar y pentref. Mae'n debyg na fyddwn ni byth yn gwybod sut yn union y bu farw'r pump, ond mae'n bosibl eu bod wedi cael eu lladd wrth i'r Llychlynwyr chwilio am gyfoeth, ar ffurf gwystlon neu gaethweision yn yr ardal.
Mae penglogau Llanbedr-goch i gyd yn dangos nifer o nodweddion tebyg, yn cynnwys holltau llygaid llorweddol, safnau sgwâr a chlustiau adlynol (heb labedau). Mae rhai o'r nodweddion hyn yn awgrymu perthynas genetig rhwng yr unigolion (naill ai'n perthyn i'r un teulu neu'n dod o gronfa enynnol gyfyng).
Yn ogystal â chyfoeth o dystiolaeth am drefn yr anheddiad gan gynnwys adeiladau, arteffactau a safonau byw ar safle uchel ei statws - mae e wedi darparu gweddillion y bobl oedd gynt yn byw ac yn bod yno.








Gadael sylw