Caradog y gath chwilfrydig - Addysg: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Hyd:
Sesiwn awr
Mwyafswm:
1 grŵp sy'n cynnwys hyd at 30 o ddisgyblion
Addas ar gyfer:
Meithrin hyd flwyddyn 2
Pwrpas:
Nod y sesiwn yw darparu cyfle i'r plant fwynhau ymweld â'r Amgueddfa lle mae'r profiad dysgu'n llawn chwilfrydedd a hwyl ac yn gyfle i archwilio
Storïau Caradog y gath chwilfrydig:
Bydd y sesiwn dan arweiniad aelod o'r tîm addysg yn cynnwys canu, adrodd storïau, trin a thrafod gwrthrychau a dwyieithrwydd. Gall plant gwrdd â Caradog y gath chwilfrydig fydd yn dweud wrthynt am wrthrych rhyfedd neu anghyfarwydd o gasgliad yr Amgueddfa. Bydd gan y plant gyfle i ddyfalu beth ydyw a beth yw ei bwrpas. Anogir y plant i ddatblygu sgiliau ieithyddol ac arsylwi drwy ofyn ac ateb cwestiynau am y gwrthrych. Bydd y plant yn gwrando ar storïau Caradog ac yn dysgu sut roedd bywyd yng Nghymru'r gorffennol. Bydd y plant yn ymarfer patrymau iaith cyfarwydd yn y Gymraeg sy'n berthnasol i'w hoed.
Bydd gan y plant gyfle i dynnu llun o'r gwrthrych ar daflen arbennig. Os bydd athrawon yn dod â chamerâu digidol, gall y plant dynnu ffoto o'r gwrthrych.
Diwedd y sesiwn bydd helfa drysor i ddod o hyd i'r gwrthrych ymhlith arddangosfeydd yr Amgueddfa. Pob wythnos defnyddir gwrthrych gwahanol sy'n golygu bod y sesiwn yn ddelfrydol ar gyfer sawl ymweliad.
Canlyniadau a fwriedir:
- Datblygu sgiliau dwyieithog wrth ddysgu geirfa ac ymarfer patrymau iaith cyfarwydd yn y Gymraeg
- Datblygu sgiliau gwrando
- Datblygu sgiliau arsylwi wrth graffu ar wrthrychau ac arddangosfeydd
- Datblygu sgiliau iaith wrth ofyn ac ateb cwestiynau am wrthrychau a'r gorffennol
- Datblygu dealltwriaeth o sut y bu pobl yn byw yn y gorffennol, sut y newidiodd pethau a pha bethau arhosodd yn ddigyfnewid









