Awyrennau, trenau a moduron - Addysg: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Hyd:
3 sesiwn 60 munud yr un yn ystod y dydd.
Nifer:
2 grŵp o hyd at 30 disgybl.
Addas ar gyfer:
Dosbarth derbyn i flwyddyn 2.
Pwrpas:
Y nod yw cael dysgwyr i gymryd rhan mewn sesiynau lle mae gweithgareddau ymarferol a dysgu arbrofol yn rhan annatod o’r ymweliad. Bydd y plant yn dysgu am sut oedd pobl yn teithio yn y gorffennol; sut newidiodd pethau a beth sy’n dal yr un peth.
Sesiwn Actor Cymeriadau:
Yn ystod y sesiwn dan arweiniad fore hon bydd y plant yn cyfarfod Mr Trevithick, actor cymeriadau fydd yn sôn wrthynt am ei ddyfais enwog – y trên stem gyntaf. Bydd y plant yn dysgu am yr hanes cyffrous ym Merthyr a thrafferthion Mr Trevithick yn ceisio gwneud i’w beiriant symud. Bydd cyfle i rai plant chwarae rôl a gwisgo gwisg ffansi fel rhan o’r cyflwyniad.
Bocsys Archwilio Trafnidiaeth:
Yn ystod y sesiwn hon a arweinir gan athro bydd y dosbarth yn rhannu’n grwpiau. Bydd oedolyn o’r ysgol sy’n ymweld yn arwain ymchwiliad i bob bocs. Darperir canllawiau i oedolion ym mhob bocs. Darperir cwestiynau i’w gofyn, esboniadau a gwybodaeth am y cynnwys.
Taith Trafnidiaeth:
Yn ystod y sesiwn hon a arweinir gan athro gall y plant hŷn gofnodi gwybodaeth gan ddefnyddio taflen waith wedi’i seilio ar dri math o drafnidiaeth – awyrennau, trenau a cheir.
Efallai bydd dosbarthiadau o blant iau yn ffafrio arsylwi a thynnu lluniau o wrthrychau trafnidiaeth mawr. Gellir dod â phensiliau, papur a chlipfyrddau neu gallwn ddarparu offer yn ôl y galw. Gofynnwch yn y dderbynfa os gwelwch yn dda.
Bwriad:
- Datblygu dealltwriaeth o sut fyddai pobl yn teithio yn y gorffennol; sut mae pethau wedi newid a beth sy’n dal yr un peth.
- Datblygu ymwybyddiaeth gronolegol.
- Datblygu sgiliau arsylwi wrth edrych yn ofalus ar wrthrychau ac arddangosiadau.
- Datblygu sgiliau iaith wrth holi ac ateb cwestiynau am wrthrychau ac am y gorffennol.









