Cofio'r Cau - Amgueddfa Lechi Cymru
Yn ystod Tymor y Gwanwyn a'r Haf 2009, trefnwyd cyfres o sesiynau straeon digidol rhyng-genhedlaeth yn Amgueddfa Lechi Cymru i gofnodi atgofion pobl o'r cyfnod pan fu Chwarel Dinorwig gau, sef 1969.
Roedd y straeon yn cael eu creu gyda chymorth rhai o ddisgyblion Hanes Ysgol Brynrefail.
Roedd y disgyblion yn elwa o glywed a chofnodi hanes 'byw' a'r cyfranwyr yn cael cyfarwyddo eu straeon eu hunain, drwy weithio gyda'r disgyblion.
Anita Butler: Balchder y Chwarelwr
Merch a gafodd pob cyfle er i'w thad golli ei waith yn y chwarel.
Arwel Jones: Dyn y bysys yn Darogan
Mab i ddyn y bysys a oedd wedi darogan cau'r chwarel ymhell cyn 1969.
Catherine Foulkes: Hogan yr Offis Fawr
Un o genod yr 'Offis Fawr' yn 1969.
Clarice Roberts: Teulu'r Bull
Roedd Clarice a'i gŵr newydd gymryd tafarn y Bull, Deiniolen, drosodd pan glywon nhw am y chwarel yn cau.
Dic Jones: Y Lechen yn fy Ngwaed
Roedd Dic yn gweithio'n Chwarel Dinorwig yn y 60au â cafodd ei gadw 'mlaen ar ôl Awst 1969 i orffen archebion olaf y chwarel.
Dilys Baylis: 'The Quarry Hooter'
SAESNEG YN UNIG - Cyfansoddodd Dilys y gerdd hon mewn ymateb i gau'r chwarel. Dyma hi'n ei darllen deugain mlynedd yn ddiweddarach.
Eirian Roberts: Hogan Dad Oeddwn i...
Hanes merch oedd yn y chweched dosbarth pan gollodd ei thad ei waith yn y chwarel.
Elwyn Jones: 'Nôl a mlaen
Mab i Hugh Richard Jones, Prif Beirianydd Chwarel Dinorwig yn 1969. Bu Elwyn hefyd yn gweithio yno yn y '60au ac yna'n ddiweddarach fel un o staff Amgueddfa Lechi Cymru.
Huw Hughes: Gwobr Chwarela
Bu farw tad Hugh o glefyd y llwch â mae'n trafod y frwydr wynebodd y teulu i gael cydnabyddiaeth o'i salwch.
John Owen: 1969 Trwy Lygaid Gweinidog
Cyfnod y cau o safbwynt gweinidog ifanc yn yr ardal.
Stori Ken Jones
Hanes ei waith yn Swyddfa Budd-daliadau y Di-waith yn ystod 1969 a'i gyswllt efo Eddie Patrwm, crefftwr yn y Gilfach Ddu.
Stan Lyall: Colli 'Nhad
Ei dad oedd yr olaf i gael ei ladd yn Chwarel Dinorwig.







