Tymor 1995
Gan ein bod ni bellach wedi dod o hyd i'r lloc yn dangos gweithgarwch o ddechrau'r canol oesoedd, roedd yn hanfodol darganfod a oedd y nodweddion a ddaeth i'r golwg ym 1994 yn adeilad ai peidio. Hefyd roedd yn rhaid i ni asesu i ba raddau roedd y safle wedi'i arbed - ac a ellid dod o hyd i ragor o dystiolaeth ar gyfer adeiladau neu weithgareddau.
Roedd y prif waith cloddio ym 1995 yn digwydd o fewn y lloc a ddarganfuwyd ym 1994. Agorwyd arwynebedd 20 x 30m (Ffos 'H') gan ehangu'r ffos fechan siâp L a gafodd ei chloddio y flwyddyn cynt. Roedd estyniad pellach tua'r gorllewin yn rhoi croestoriad ar draws y ffos a amgylchynai'r lloc.
Y dystiolaeth gynharaf am weithgarwch yn Ffos 'H' oedd darnau o fflint. roedd archwiliad rhagarweiniol yn awgrymu cyfnod rhwng yr Oes Fesolithig a dechrau Oes yr Efydd. Cofnodwyd nifer fawr o nodweddion bas, yn eu plith dwy rigol gromliniol, a chlystyrau o bydewau neu bystdyllau bychan. Yn llenwad nifer o'r nodweddion hyn roedd esgyrn, fflint, a chrochenwaith bras wedi'i dempro â chwarts a'i wneud â llaw, a rhai ohonynt yn perthyn i ddiwedd y cyfnod Neolithig o ran natur (tua 3000CC).
Roedd tystiolaeth o weithgarwch Rhufeinig yn yr ardal gyffredinol o gwmpas y cae lle ceid y lloc. Yn eu plith roedd darn o bowlen grochenwaith Rhufeinig Rhydychen diweddar, a darn bychan o wydr Rhufeinig gwyrddlas. Roedd olion cynharach o'r Rhufeiniaid hefyd: broets o'r ganrif gyntaf/ail a ddarganfuwyd ym 1983 wrth glirio ffos yng ngwaelod (rhan ddeheuol) y cae; silicwa Honorius yn dyddio tua 400 o ben uchaf y cae a phelydrog barbaraidd yn rhan orllewinol y cae.
Roedd tystiolaeth o weithgarwch yn nechrau'r oesoedd canol yn y gyfres o adeileddau petryal mawr yn hanner gogleddol y ffos. Yn wreiddiol, roedd seiliau cerrig calch heb eu bondio ar waliau Adeilad 1. Roedd draen wedi'i leinio â cherrig a'i gapio, gyda gwaelod wedi'i dorri i'r graig, yn rhedeg mewn llinell syth yn groeslinol ar draws 'tu mewn' yr adeilad, am tua 7m.
Yn union i'r dwyrain o Adeilad 1 roedd siâp petryal arall (Adeilad 2), mewn cyfeiriad dwyrain-gorllewin yn fras. Fel gydag Adeilad 1, nid oedd ei gynllun cyflawn yn hollol amlwg, gan fod y pen dwyreiniol yn parhau y tu hwnt i'r ffos. Roedd yn ymddangos bod Adeilad 2 wedi bod trwy o leiaf ddau gam: sef y cam cyntaf wedi'i wneud o goed gyda phystdyllau mawr tua 2m ar wahân, yn ffurfio wal ogleddol ag ymylon syth; yr ail gam, ar ongl ychydig yn wahanol, gyda sylfaen o wal gerrig sych, ar gyfer adeilad pren mae'n debyg. Daethpwyd o hyd i lawer o olion plethwaith ar y safle a'r gred yw eu bod wedi dod o'r adeileddau hyn. Roedd Adeilad 2 tua 8m o led ac o leiaf 12m o hyd. Dyddiad radio carbon y pystdwll a gloddwyd yn 1994, wedi'i raddnodi, oedd OC 635 hyd at 1005 (Beta-77211, 1240 +/- 100 BP). Ymddengys ei fod wedi'i leoli yn rhan uchaf y llenwad a roddwyd mewn draen wedi'i dorri i'r graig yng nghanol yr adeilad hwn.
Roedd cysylltiad rhwng ardal o bridd du ger ymyl gorllewinol Ffos 'H' a nifer o gerrig pafin, sef aelwyd garreg o bosibl. Ond does dim tystiolaeth o unrhyw furiau oherwydd i'r tir gael ei aredig. Roedd darganfyddiadau o'r pridd du o fewn yr adeilad yn cefnogi dyddiad yn y ddegfed ganrif.
Rhoddwyd ffos arall i gael trawslun ar draws y ffos a amgylchynai'r lloc. Roedd hwnnw'n cadarnhau bod y ffos wedi'i thorri o'r graig a'i bod yn fas ar ymyl gogledd-orllewinol y lloc. Roedd y proffil yma yn debyg i'r rhan gyntaf a archwiliwyd yn 1994. Doedd dim tystiolaeth ar gyfer palisâd neu glawdd yn y fan hyn.
Dyma rai o'r darganfyddiadau a gafwyd wrth gloddio: pwysynnau plwm a throellau gwerthyd ar gyfer nyddu edafedd; modrwy fys blwm; darnau o grib asgwrn; handlenni cyllell o asgwrn; mynawyd asgwrn a throell asgwrn; platiau bwcl haearn ac aloi copor; modrwy aloi copor o bin dolennog gyda phen pin plaen ar ffurf gylchog a thrawstoriad crwn; hoelion a rhwyau haearn; darnau o faen melin crwn; gleiniau gwydr ar ffurf melon a rhai plaen a phwysau cerrig. Cafwyd hyd i ddarn bach o arian wedi'i frasnaddu gydag addurn wedi'i bwnsio o freichdorch arian o fath Gwyddelig-Nordig.
Dehongli tymor 1995 (fel a gyhoeddwyd)
" Rhaid cwblhau cloddio'r adeiladau cyn deall yn union beth oedd eu swyddogaeth a'u cynllun. Mae'r adeileddau hyn o fewn lloc wedi'i amgáu a gâi ei ddefnyddio yn ystod yr un cyfnod, mae'n debyg. Ond, mae arolwg geoffisegol 1994 yn awgrymu bod nifer o ffosydd neu gamau wedi bodoli.
Mae camau cynharaf y gweithgarwch ar y safle yn dal angen eu hastudio a'u hasesu. Mae'n ymddangos bod yr adeiladau yn dyddio o'r ddegfed ganrif yn bennaf, ac mae'r lloc wedi datgelu tystiolaeth o ffermio, crefftau a masnach. Mae llawer o esgyrn anifeiliaid a meini melin yn awgrymu economi amaethyddol; mae tystiolaeth hefyd eu bod yn gweithio efydd ar y safle. Ceir awgrymiadau hefyd o weithio haearn a chyrn carw, sef gweithgareddau traddodiadol Nordig neu weithgareddau brodorol. Mae'r arian wedi'i frasnaddu, y pwysynnau a'r darnau arian yn awgrymu gweithgarwch masnachol.
Tynnwyd pridd uchaf wythfed rhan o'r twmpath a archwiliwyd gyntaf ym 1994, a glanhawyd y cleiau a'r creigwely. Roedd hyn yn cadarnhau mai codiad tir hollol naturiol ydoedd, heb ddim nodweddion archeolegol o gwbl."







