Tymor 1994
Fe ddechreuwyd archwilio'r safle yn Llanbedrgoch am y tro cyntaf ym 1994, er mwyn sefydlu cyd-destun rhai o'r arteffactau canoloesol cynnar a ddangoswyd i'r Adran Archeoleg a Nwmismateg er mwyn eu hadnabod rhwng 1989 a 1993. Ymhlith y darganfyddiadau roedd tri phwysyn plwm o'r math Llychlynaidd (un wedi'i gapio gyda mownt aloi copor addurnol gyda phaneli rhwyllwaith L ar gyfer enamel), pin cylchog aloi copor o Oes y Llychlynwyr o'r ddegfed ganrif, glain dolennog a chloch efydd byramidaidd o'r math a geid yn y ddegfed ganrif.
Nid oeddem yn gwybod lle'n union ar y safle y daethpwyd o hyd i'r rhain, felly cam cyntaf yr ymchwiliad oedd archwilio'r safle gan ddefnyddio arolwg geoffisegol a chloddio yma ac acw.
Carreg galch sydd yn yr ardal yn bennaf, gyda phridd llwyd ar yr wyneb. Dim ond lleoliadau bras oedd gennym ar gyfer y darganfyddiadau gwreiddiol, sef pedwar cae gwahanol dros bellter o 400m. Gan nad oedd unrhyw noedweddion amlwg i'w gweld ar y tir, fe gomisiynwyd arolygon geoffisegol mewn mannau penodol mewn pedwar cae, gan ddefnyddio offer Geoscan RM4 a DL10 a Gradiomedr Fluxgate. Cwblhawyd dros 80 sgwâr grid (pob un yn 20 x 20m) gan y magnetomedr (sy'n mesur amrywiadau bach iawn ym maes magnetig y ddaear oherwydd bod nodweddion wedi'u claddu), ac ugain sgwâr grid yn ôl gwrthedd. Ar ben hyn, cafodd y caeau eu cerdded a chynhaliwyd gwaith arolygu, cyn pwyso a mesur unrhyw anghysonderau a ddaeth i'r amlwg yn yr arolwg.
Wrth gynnal arolwg geoffisegol ar dwmpath cymesur (tua 20m mewn diamedr, a 3m o uchder), ac yna'i gloddio daethpwyd o hyd i nifer o ffosydd tua'r de a'r hyn oedd yn ymddangos yn wal gynnal syml o amgylch rhan o waleod y twmpath.
Mewn man arall, roedd arolwg y magnetomedr yn dangos bod lloc siâp D, gyda gweithgarwch magnetig amlwg yn yr ardal o fewn y ffos. Wrth wneud gwaith cloddio rhagarweiniol, gwelwyd bod ffos y lloc tua 2m o led, ac 1m o ddyfnder. Yn y deunydd a lenwai'r ffos roedd sercol ynghyd â thopyn llestr toddi o'r math canoloesol cynnar, gan ddangos bod gweithio metel wedi digwydd yn yr ardal. Cafodd y llenwadau o'r ffos eu dyddio gan ddefnyddio radio carbon wedi'i raddnodi. Cafwyd dyddiadau o OC 450 hyd at 770 (Beta-77210, 1430 +/- 80 BP) ac OC 720 hyd at 735 ac OC 760 hyd at 1035 (Beta-77212, 1120 +/- 80 BP). Roedd ffos 'E' oddi mewn i'r lloc yn dangos tystiolaeth bod pystdwll wedi'i dorri yn y creigwely mewn darn lle cafodd y tir ei lyfnu'n gyffredinol. Roedd pridd du ar ben y creigwely ac ar ben y nodwedd hon, gyda llawer o sercol ac esgyrn anifeiliaid. Ar ôl hidlo'r pridd du, cafwyd dyddiad radio carbon wedi'i raddnodi ar y sercol, sef OC 635 hyd at 1005 (Beta-77211, 1240 +/- 100 BP).
Roedd yr ychydig ddarganfyddiadau a ddaeth o waith cloddio 1994 yn gyson â dyddiad canoloesol cynnar.
Dehongliad ar dymor 1994 (fel a gyhoeddwyd)
Roeddem yn amau bod yr ardal wedi'i llyfnu, a lle roedd y pystdwll yn Ffos 'E', yn llwyfan tŷ o fewn y lloc. Mae'n dweud yn yr adroddiad blynyddol: "Mae'r canlyniadau rhagarweiniol hyn yn arwyddocaol o safbwynt datgelu yr hyn a allai fod yn dystiolaeth gadarn am y tro cyntaf fod anheddiad yn dyddio o ddechrau'r canol oesoedd ym Môn, gydag arwyddion o weithgarwch Oes y Llychlynwyr. Mae'r amrywiaeth o ddarnau arian (diwedd yr wythfed i ddiwedd y nawfed ganrif), y dyddiadau radio carbon (un cynnar: y bumed i'r wythfed ganrif; dau ddiweddarach: wythfed i ddechrau'r unfed ganrif ar ddeg) a'r arteffactau i gyd yn dangos gweithgarwch yn y nawfed a'r ddegfed ganrif, neu hyd yn oed yn gynharach. Mae hyn yn cyfateb yn fras â dyddiad y breichdorchau arian o fath Gwyddelig-Nordig o Draeth Coch (a adawyd yn nechrau'r ddegfed ganrif mae'n debyg) a chyfnod anheddiad y Llychlynwyr yng Nghilgwri. Er hynny, mae'n rhy gynnar dweud i ba raddau y mae'r safle yn Llanbedrgoch yn dyddio o'r cyfnod cyn i Ingimund gyrraedd yn ôl traddodiad yn OC 902/3 a dal Osfeilion ('Maes Rhosmeilon': Brut y Tywysogion, OC 903) ger Llanfaes. Prin yw'r dystiolaeth archeolegol ar gyfer presenoldeb y Llychlynwyr yng Ngogledd Cymru, ac mae'n hanfodol nodi ac ymchwilio i safleoedd posibl er mwyn deall natur cysylltiad o'r fath.







