Ond beth yw arwyddocâd Hynny?
Yr hanes cyn 2001...
Ymddengys bod yr anheddiad yn Llanbedrgoch yn cynrychioli math newydd o safle yng Nghymru yn y 9fed/10fed ganrif - sef canolfan ar dir isel, un aml-bwrpas ac wedi'i hamddiffyn. Mae'r pethau a ddarganfuwyd yno yn rhoi cliwiau pwysig am swyddogaeth yr anheddiad o Oes y Llychlynwyr. Mae pwysynnau'r masnachwyr, y darnau o arian ac olion gwaith y crefftwyr, er enghraifft darnau o gyrn ceirw, yn awgrymu ei fod yn rhan o economi a gwleidyddiaeth yr ardal, yn rhan o weithgarwch y Llychlynwyr (Gwyddelig-Nordig) ym Môr Iwerddon. Cafwyd tystiolaeth am ffermio yn y 10fed ganrif ar y safle (efallai fel canolfan stad yn agos at y tir amaeth gorau), ac ymddengys bod y trigolion yn byw ar ffermio cymysg ynghyd â physgota.

Mae tystiolaeth ar ffurf darnau arian a phethau eraill yn awgrymu y bu cyfnod cynnar o dwf economaidd yn Llanbedrgoch o'r 7fed ganrif ymlaen. Yn y 10fed ganrif ymddengys bod y safle ar ei anterth. Roedd yno fedi cnydau, cadw da byw, artistiaid a chrefftwyr, a chysylltiadau â masnachwyr Llychlynaidd a ddeuai yno mewn llongau dros y môr. Yn yr un cyfnod bu cynnydd aruthrol yn y darnau arian a gâi eu bathu yng Nghaer, a llawer mwy o gysylltiad gyda Manaw a Dulyn. Gwelir ôl digamsyniol yr arddull Wyddelig-Nordig sy'n nodweddu ardal Môr Iwerddon ar rai o'r gwrthrychau a ganfuwyd ar y safle.
Er ei bod yn aml yn beryglus cysylltu tystiolaeth archeolegol â digwyddiadau hanesyddol penodol, erbyn hyn mae'n bosibl gosod y datblygiadau oddi mewn i fframwaith hanesyddol.
- Cyfnod 1. Amddiffyn am yr eildro anheddiad arfordirol isel yn ystod y nawfed ganrif. Adlewyrchai mur cadarn y closdir yn Llanbedr-goch gyfoeth y perchennog, ac mae'n bosibl y cafodd ei godi yng nghyfnod Rhodri Mawr (844-78) neu ei feibion, o ganlyniad i bwysau o du'r Llychlynwyr.
- Cyfnod 2. Datblygu posibiliadau'r safle fel gorsaf fasnachu a chanolfan amlbwrpas tua diwedd y nawfed a dechrau'r ddegfed ganrif drwy gychwyn masnach forwrol.
- Cyfnod 3. Ymosodiadau'r Llychlynwyr a meddiannu'r safle dros dro, o bosibl - os aflonyddid ar y safle roedd hyn yn fyrhoedlog, yn ôl pob tebyg. Mae integreiddiad y Sgandinafiaid a'r Cymry brodorol, a hyd yn oed, o bosibl, arhosiad y Llychlynwyr, heb ei brofi.
- Cyfnod 4. Anghofiwyd am bwysigrwydd blaenorol Llanbedr-goch yn ystod yr 11eg a'r 12fed ganrif, ac nid yw'r enwau caeau cynharaf yn darparu unrhyw gliwiau ynglŷn ag enw blaenorol y safle neu ei leoliad - cyfeirir at y darddell yn ei ganol yn unig.







