Anheddiad o oes y Llychlynwyr yn Llanbedrgoch

Darganfyddiad
Mae un o aneddiadau mwyaf diddorol o'r cyfnod hwn yn nwyrain Môn. Mae gwaith maes blynyddol gan yr Adran Archeoleg a Nwmismateg yn dechrau newid ein syniadau am Oes y Llychlynwyr yng Nghymru. (Mae crynodeb blynyddol o'r gwaith cloddio yn adroddiadau ar y safle). Darganfuwyd y safle ym 1994. Roedd nifer o bethau wedi cael eu darganfod yno gyda chanfyddwyr metel ac wedi cyrraedd yr Amgueddfa i'w henwi. Yn eu plith roedd ceiniog Eingl-Sacsonaidd o gyfnod Carolingaidd o gyfnodau Lewis Dduwiol a Siarl Foel, a thri phwysyn plwm o deip Llychlynaidd.

Cychwyn chwilio
Roedd chwilio am dystiolaeth archeolegol bron fel chwilio am nodwydd mewn tas wair. Yn yr achos hwn, y 'nodwydd' oedd darn o bin cylchog o'r 10fed ganrif a oedd yn gorwedd ar waelod tun yn llawn o wahanol bethau a gasglwyd o'r caeau dros y blynyddoedd. Roedd hyn yn cadarnhau bod y darganfyddiadau gwreiddiol yn fwy na dim ond darnau oedd wedi digwydd mynd ar goll.
Y 'das' oedd y tir, lle roedd haidd yn tyfu. Cam cyntaf y gwaith maes ym 1994 oedd archwilio'r caeau a chloddio yma ac acw. Yn y cae lle daethpwyd o hyd i'r pwysynnau Llychlynaidd, cafwyd bod ffos yn amgylchynu ardal fawr, siâp U bedol, ar lethr ysgafn tua'r de. Roedd y ffos wedi'i chloddio i'r graig mewn mannau a thua 2m o led ac 1m o ddyfnder. Trwy ddyddio radio carbon ar y sercol oedd yn y ffos, cafwyd amryw o ddyddiadau rhwng y 5ed a'r 11eg ganrif.

Y cloddio hyd yn hyn...
Wrth ddefnyddio magnetometr i archwilio, daethpwyd o hyd i un ardal oedd yn llawn magnetedd. O gloddio yno, daethpwyd o hyd i bystdwll wedi'i dorri i'r graig mewn darn lle cafodd y tir ei lyfnu'n gyffredinol. Credir mai llwyfan i dŷ oedd hwn. Ers hynny bu cloddio mewn pum prif ardal, ac mae hanes cymhleth y safle yn dechrau dod i'r amlwg.
Y Ffermwyr Cyntaf (3,300CC - 2,500CC)
Mae'n debyg bod ffynnon dŵr croyw ar derfyn isaf y safle yn ganolbwynt i'r gweithgaredd yn ystod y cyfnod hwnnw. Dyma'r cyfnod y credir i'r rhan fwyaf o siambrau claddu Môn gael eu codi.
Rhufeinig (tua OC63 - OC400)
Gwelir tystiolaeth am weithgaredd yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid yn rhai o'r darganfyddiadau unigol, e.e. sawl broets efydd o'r ganrif gyntaf/ail a darn arian wedi'i glipio (siliqua) â llun Honorius arno o tua 400. Yn ystod y gwaith cloddio mae tua dwsin o ddarnau o grochenwaith Rhufeinig wedi dod i'r fei. Cafwyd dyddiadau radio carbon ar gyfer sawl peth rhwng tua OC240 a 450.

Cyn-Lychlynol (tua.AD450 -c.850)
Cadarnhawyd bod y ffos o gwmpas yr anheddiad wedi'i chloddio cyn cyfnod y Llychlwynwyr - mae rhai o'r pethau yn y ffos yn cadarnhau hynny. Mae'n debyg mai i'r cyfnod cynnar y perthyn y tŷ crwn plethwaith a chlai a'r neuadd fawr o bren, y gwelir ei hôl ar ffurf pystdyllau mawr ynghyd â phystdyllau llai ar eu hochr ogleddol.

Oes y Llychlynwyr (tua.850 - 1000)
Ymddengys i'r adeilad pren hwn gael ei ddisodli yn hwyr yn y 9fed ganrif neu ar ddechrau y 10fed ganrif gan o leiaf ddwy neuadd betryal gyda sylfeini cerrig. Cafodd leinin clai yr aelwyd ganolog yn y neuadd-dy llawr isel (Adeilad 1) ei ddyddio â dulliau archeomagnetig. Mae'n ymddangos iddo gael ei ddefnyddio am y tro olaf rywdro rhwng tua 890 a 970. Roedd yr adeilad hwn yn yr un cyfnod â'r ysgubor neu'r neuadd fawr isel (Adeilad 2) oedd yn union i'r dwyrain iddo. Mae llenwadau hon wedi cael eu dyddio trwy ddulliau radio carbon i tua 855-1000. Roadd adeilad 2 ar ongl sgwâr bron i Adeilad 1. Mae'n ymddangos ei fod yn mesur o leiaf 8m o led a 12m o hyd.

Mae palmant cerrig i'r gorllewin i Adeilad 1 yn dangos lle roedd mynedfai trydydd adeilad isel ei lawr. Ymddengys bod gwaith aredig wedi difetha unrhyw dystiolaeth glir am furiau'r adeilad. Mae'n debyg mai adeilad petryal ychydig yn llai na'r lleill oedd yma. Roedd pridd du yn gorchuddio'r llawr isel. Ynddo cafwyd nifer o ddarganfyddiadau. Yn eu plith roedd bwcl efydd cain tebyg i rai'r 10fed ganrif a llafn haearn i gyllell gyda chefn onglog. Mae cynllun y llafn yn cadarnhau ei fod o'r un cyfnod ag Adeiladau 1 a 2.

Ar ochrau dwyreiniol a gorllewinol y lloc, daethpwyd o hyd i dystiolaeth bellach o wal gerrig sych. Wal amddiffynnol oedd hon, dros 2m o drwch. Mae'n debyg iddi gael ei chodi yn y 9fed ganrif, y tu mewn i'r ffos a oedd wedi llenwi â llaid. Mewn pridd du (tomen sbwriel) y tu ôl i'r wal yng nghornel de-orllewin y lloc roedd llawer o esgyrn anifeiliaid a nifer o arteffactau. Yn eu plith roedd offer haearn â socedau ar gyfer gweithio lledr, ac offer gweithiwr lledr - mynawyd, mowntiau a chenglau bwced.
Oes y Llychlynwyr (tua 1000)
Ymddengys bod yna o leiaf un cyfnod strwythurol olaf pan godwyd adeilad mawr sgwâr, gydag aelwyd ganolog ychydig yn uwch. Mae'n hwyrach nag Adeiladau 1 a 2 ac efallai ei fod yn dilyn llinellau mwy nag un ffos sy'n torri trwy'r nodweddion cynharach (a ddyddiwyd tua 900-1080). Wedi hynny maen ymddangos bod y tir wedi'i droi'n dir amaethyddol. Ymhen amser, diflannodd holl olion yr anheddle oddi ar wyneb y tir.







