Dadorchuddio tystiolaeth y Llychlynwyr

Celc Bangor a gladdwyd tua 925

Mae gofyn i ni droi at archeoleg er mwyn cael darlun cyfoes diduedd o Gymru yn Oes y Llychlynwyr. Mae'r celciau o arian Llychlynaidd y gywddwn amdanynt yng Nghymru wedi eu darganfod ar hyd yr arfordir. Daeth dau gelc i'r golwg ger safle mynachdy Deiniol Sant ym Mangor, un a gladdwyd tua 925, a chasgliad bychan o ddarnau arian a gladdwyd tua 970. Daethpwyd o hyd i gelc o ddarnau arian ym Mryn Maelgwyn ger Llandudno hefyd. Fe'u claddwyd yno tua chanol y 1020au, ac mae'n bosibl mai ysbail y Llychlynwyr oeddynt yn hytrach na chynilion y bobl leol.

Daethpwyd o hyd i drysor arbennig iawn o bum breichdorch arian gyflawn o'r math Gwyddelig-Nordig yn y 19eg ganrif ar ochr dde-ddwyreiniol Traeth Coch ym Môn. Mae'r rhain bellach yng nghasgliadau Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru. Mae ymchwilwyr o'r farn bod y breichdorchau a thrysor cuerdale (Swydd Gaerhirfryn) (o tua 905) yn gysylltiedig â'r digwyddiadau pan gafodd Ingimund ei yrru o Ddulyn.

Y breichdorchau o Draeth Coch, Môn

O bryd i'w gilydd mae darganfyddiadau unigol yn dod i'r golwg yng Nghymru, fel y pwysynnau masnachwyr ar draethau yn Sir Benfro, a bachau i gau clogynnau ar draethau Porth Sgiwed (Sir Fynwy) a Bae Abertawe yn ogystal ag yn Llanfair Pwllgwyngyll ym Môn a Phenarthur (Sir Benfro). Darganfuwyd dyrnfol cleddyf trawiadol gan ddeifiwr ger Smalls Reef. Mae addurn bwystfilod ac anifeiliaid tebyg i nadroedd yn null Urnes ar y dyrnfol, yn dyddio o tua 1100-25. Mae'n debyg iddo ddod o long Llychlynaidd a suddodd ar daith rhwng Iwerddon a Chymru.

Darnau o grib asgwrn o Lanbedrgoch

Ym 1945 daethpwyd ar draws bedd dyn ar esgair dywodlyd gyferbyn â thraeth Benllech. Roedd nifer o heolion haearn a chrib o gorn carw yn y bedd gan awgrymu claddedigaeth o Oes y Llychlynwyr. Ai dyma un o'r genhedlaeth gyntaf o Lychlynwyr a phaganiaid i ymgartrefu ym Môn? Dim ond gwaith pellach all ateb y cwestiwn hwnnw. Mae olion ffasiynau diweddarach y Llychlynwyr yn y gymuned Gristnogol ym Môn i'w gweld o hyd yn arddull yr addurno ar waith cerrig, er enghraifft y groes o'r 10fed ganrif ym Mhenmon. Mae hyn yn awgrymu bod y Llychlynwyr wedi dechrau ymgyfunon heddychlon gyda'r boblogaeth frodorol yn ystod y ddegfed ganrif - tuedd a nodwyd mewn ardaloedd eraill hefyd.

Gwybodaeth

Yn ystod gwaith cynnal a chadw hanfodol i'r adeilad rhwng 2009–2011 ni fydd yr archifau ar gael.

» Archifau yn Adran Archeoleg a Niwmismateg

digwyddiadau

Amgueddfa Cymru — National Museum Wales