Enillwch daith gweithgaredd natur!
[delwedd: ]
[delwedd: ]
[delwedd: ]
[delwedd: ]
Cadwch gofnodion wythnosol i gael cyfle i ennill taith gweithgaredd natur!
Yn cynnwys: Bws am ddim a diwrnod o weithgareddau natur dan arweiniad ar gyfer un dosbarth.
Bydd enillydd o dde Cymru yn ymweld â Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru neu bydd enillydd o ogledd Cymru yn ymweld ag Amgueddfa Lechi Cymru.
Mae Ymddiriedolaeth Edina yn trefnu teithiau lleol i ysgolion yn Lloegr a'r Alban. Ewch i www.edinatrust.org.uk.
I gael cyfle i ennill: Cofiwch anfon eich cofnodion tywydd wythnosol i’r wefan erbyn 29ain Mawrth. Byddwn yn cyhoeddi'r enillydd ar 22 Ebrill a caiff y trip ei gynnal ar 20 Mai 2012.
Bydd pob disgybl sy'n anfon eu cofnodion aton ni yn derbyn Tystysgrifau Gwyddonwyr Gwych a rhai eginblanhigion.