The Keys
Enw: A Brief History of Gilbern Cars
Artistiad: The Keys
Meithder: 3:02
Rhagolwg:
» Lawrlwytho'r holl trac [7mb, MP3]
Am The Keys

Grŵp 5 aelod yw The Keys a aned o ludw un o hoff grwpiau John Peel, Murry the Hump.
Mae ffocws mwy pendant ar eu sain nawr, ac mae eu dylanwadau’n agos iawn at yr wyneb.
Recordiodd y grŵp albwm ar gyfer y label cwlt annibynol Too Pure yn y gorffennol pell, ond maent o’r diwedd yn rhyddhau deunydd newydd fel casgliad o recordiau estynedig dros y flwyddyn nesaf.
Ar gyfer y project arbennig hwn, ymunodd y Keys gyda’r cynhyrchwyr Wow a Flutter o Gaerdydd, sydd wedi helpu i recordio a chyd-gyfansoddi’r gân.
Aeth Matthew Evans o’r Keys ac Andrew Parry o Wow a Flutter i Ganolfan Gasgliadau Amgueddfa Cymru yn Nantgarw i chwilio am ysbrydoliaeth o orffennol diwydiannol Cymru.
Matthew: “Roedd canolfan Nantgarw yn lle anhygoel, llawn pob math o drugareddau difyr!”
Gallem fod wedi dwyn ysbrydoliaeth o unrhyw beth, bron, ond yn y diwedd canolbwyntiom ar y Gilbern GT gwyrdd siapus. Mae’n debyg mai cwmni cynhyrchu ceir Cymreig oedd hwn a aeth i’r wal yn y 70au. Felly roedd yn rhaid i ni ysgrifennu amdano.
Roeddwn am greu trac gyda theimlad y 70au i geisio dal ysbryd a hanfod y car. Ar y cychwyn dechreuom efelychu ELO, ond esblygodd i fod yn debycach i Sabbath!
Bu gweithio ar y project yn llawer o hwyl. Cawsom bleser arbennig o greu cerddoriaeth bwrpasol, yn hytrach nag aros am yr ysbrydoliaeth i ddod. Mae’n bendant yn dechneg y byddwn ni’n ei ddefnyddio wrth gyfansoddi yn y dyfodol.”
Yr Ysbrydoliaeth

Ym 1959, penderfynodd Giles Smith, cigydd o Bentre’r Eglwys ger Pontypridd, ei fod e am adeiladu ei gar ei hun. Roedd e am greu carmoethus.
Trwy loc, cyfarfu Giles â Bernard Friese, peiriannydd Almaenaidd a chyn garcharor rhyfel. Trafododd y ddau syniad Giles am adeiladu car o ddim. Penderfynodd y ddau defnyddio ffibr gwydr, deunydd ysgafn a ddefnyddiwyd yn aml I wneud cyrff ceir yn y1950au. Seiliwyd eu car gwreiddiol ar gydrannau mecanyddol Austin A35 a chanddo olwynion dur.
Pan oedden nhw bron â chwblhau’r car, gofynnwyd i Peter Cottrell, gyrrwr ceir rasio amatur lleol, i ddod i weld y cerbyd, Roedd e’n teimlo bod y car yn rhy dda i gynhyrchu un yn unig. Felly penderfynodd Giles a Bernard ddechrau busnes gwneud ceir. Galwyd y ceir yn ‘Gilberns’, sy’n gyfuniad o enwau’r ddau gyfaill.
Ym 1961 prynodd y ddau safle yn Llanilltud Faerdref gyda benthyciad o £700 gan dad Giles. Hen safle Pwll Glo Red Ash, oedd wedi cau ym 1921, oedd hwn. Ym 1961-1962 adeiladwyd tua un car y mis, gyda phum person yn gweithio yn y ffatri. Roedd Giles a Bernard yn chwarae rhan bwysig wrth adeiladu’r ceir.
Diolch I boblogrwydd y Gilbern, recriwtiwyd pymtheg arall I weithio yno, a chynhyrchwyd un car yr wythnos. Cynhyrchwyd tair model; y GT, y Genie ac yr Invader. Ar ôl y llwyddiant cychwynnol, gwerthwyd y cwmni i Ace Holdings. Newidiodd perchnogaeth y cwmni droeon wedi hynny.
Yn sgil ansicrwydd economaidd bu rhaid i’r ffatri Gilbern gau ym 1974. Y Gilbern yw’r unig gar i gael ei fasgynhyrchu’n llwyr yng Nghymru.
Cynhyrchwyd dros fil o geir Gilbern, ac o’r rheiny, mae 500 yn dal ar y ffordd. Roedd nifer o’r perchnogion balch yn aelodau o’r Gilbern Owners Club.

Dangos sylwadau






