Bagloriaeth Cymru - Addysg: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Mae'r tîm addysg yn datblygu rhaglen gynyddol o sgyrsiau, gweithdai ac adnoddau ar gyfer ymweliadau dan eich arweiniad eich hun i ystyried rhai o ofynion cynnwys y Dewisiadau a'r Craidd ar gyfer pob lefel o astudiaeth o fewn cymhwyster Bagloriaeth Cymru. Mae Amgueddfa Cymru'n gwarantu digon o sylw i'r Cwricwlwm Cymreig.
Bydd ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau'n rhoi i ymgeiswyr werthfawrogiad o dreftadaeth a diwylliant Cymru a dealltwriaeth economaidd a diwydiannol o hanes Cymru.
Mae'r Amgueddfa'n hybu addysg drwy weithred a'r defnydd o dechnolegau newydd i wneud addysg yn fwy effeithiol. Mae'n darparu cyfleon i ymgeiswyr i ddysgu ac ymarfer ystod o sgiliau allweddol drwy ymchwilio ac archwilio gan ddefnyddio casgliadau ac arddangosion rhyngweithiol yr Amgueddfa.
- Gellir defnyddio'r Amgueddfa i astudio ystod o Elfennau a Materion Allweddol sy'n gysylltiedig â Chymru, Ewrop a'r byd ac sy'n arbennig o berthnasol i effaith newid economaidd a thechnolegol. Mae cyflwyniad byr a gweithlenni ar gael.
- Mae fersiwn deithiol o'r arddangosfa ar allfudo o'r enw Ffarwel Cymru ar gael am ddim i ysgolion a cholegau. Mae'r arddangosfa'n edrych ar y bobl a adawodd Gymru yn y 19eg a'r 20fed ganrif ac yn canolbwyntio ar yr achosion diwydiannol dros eu hallfudo. Mae'r arddangosfa hefyd ar gael ar y we yma.
‘...roedd gan y bobl ifainc y rhyddid i archwilio'r Amgueddfa’
‘...roedd y disgyblion wedi mwynhau'r cyfle i ddarganfod mwy o wybodaeth ar eu pennau eu hunain’
Tiwtoriaid Bagloriaeth Cymru, Abertawe
Cysylltwch â'r Swyddog Addysg Ffurfiol i ddysgu mwy am y cyfleon neu drafod eich syniadau eich hun.
Ffôn: (029) 2057 3611
Ffacs: (029) 2057 8956









