Tedi Twt a Doli Glwt yn ymweld â’r Amgueddfa - Addysg: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Hyd:
4 sesiwn yn ystod y dydd
Lle ar gyfer:
2 grŵp o hyd at 30 disgybl yr un
Addas ar gyfer:
Dosbarth derbyn hyd at ddisgyblion Blwyddyn 2
Pwrpas:
Y nod yw datblygu sgiliau dwyieithrwydd trwy ddefnyddio geirfa Gymraeg a phatrymau iaith cyfarwydd. Mae'r diwrnod yn gyfle i blant glywed a defnyddio Cymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae'r cynnwys hefyd yn addas ar gyfer cyflwyno'r Cwricwlwm Cymreig wrth i blant ddarganfod agweddau pwysig ar hanes diwydiannol Cymru.
Sesiwn Athrawon Bro:
Arweinir y sesiwn bore 50 munud hon gan aelodau o'r tîm Athrawon Bro o San Helen Abertawe. Bydd plant yn clywed y llyfr mawr Tedi Twt a Doli Glwt yn ymweld â'r Amgueddfa yn cael ei ddarllen ac yn cael canu nifer o ganeuon Cymraeg. Yna byddant yn dilyn llwybr o amgylch yr Amgueddfa i ddysgu ffeithiau am hanes Cymru ac ymarfer defnyddio patrymau ieithyddol Cymraeg cyfarwydd. Crëwyd deunyddiau pwrpasol ar gyfer y llwybr a bydd gan bob plentyn eu cerdyn eu hun lle gallant lynu sticeri Tedi Twt i ddangos eu bod wedi canfod y gwrthrych.
Sesiwn trin a thrafod gwrthrychau:
Mae'r sesiwn 50 munud hon dan arweiniad aelod o staff yr Amgueddfa sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Bydd plant yn trin a thrafod ac yn dysgu am y gwrthrychau sy'n ymddangos yn y llyfr mawr Tedi Twt a Doli Glwt yn ymweld â'r Amgueddfa. Byddant yn dysgu am hanes y gwrthrych ac yn ymarfer defnyddio patrymau ieithyddol Cymraeg cyfarwydd e.e. cyfrif, gofyn ac ateb cwestiynau yn Gymraeg. Bydd yna hefyd gyfleoedd i archwilio'r gwrthrychau a chwarae rôl.
Bydd y plant yn dysgu'r geiriau Cymraeg am y gwrthrychau a ddefnyddiwyd yn y gorffennol.
Sesiwn Celf:
Bydd y sesiwn prynhawn hon dan arweiniad aelod o staff yr Amgueddfa sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Bydd y plant yn gwneud gludwaith o'r cymeriadau Doli Glwt a Tedi Twt. Rhoddir gorchmynion, cyfarwyddiadau syml, enwau lliwiau a geirfa am yr adnoddau yn Gymraeg.
Amser llyfryn Tedi Twt a Doli Glwt:
Yn ystod y sesiwn prynhawn hon dan arweiniad yr athro, bydd pob plentyn yn cael llyfryn o'r enw Hwyl a sbri i'w ddefnyddio wrth ailymweld â'r orielau. Bydd plant yn cael cyfle i gofnodi eu syniadau neu'u darluniau eu hunain yn y llyfryn.
Bydd pecyn i athrawon yn cynnwys syniadau i'w trafod yn yr ystafell ddosbarth, a chopi o'r llyfr Tedi Twt a Doli Glwt yn ymweld â'r Amgueddfa ar gael.
Canlyniadau a fwriedir:
- Datblygu sgiliau arsylwi wrth edrych yn ofalus ar wrthrychau ac arddangosion.
- Datblygu sgiliau iaith wrth ofyn ac ateb cwestiynau am wrthrychau a'r gorffennol.
- Datblygu sgiliau dwyieithrwydd i ddysgu geirfa Gymraeg am wrthrychau.
- Datblygu sgiliau dwyieithrwydd gan ddefnyddio, ac ymateb i, batrymau ieithyddol Cymraeg cyfarwydd.









