Dod a'r Cyfrifiad yn Fyw - Addysg: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Hyd:
3 sesiwn 50 munud yn ystod y dydd
Lle ar gyfer:
2 grŵp o hyd at 30 disgybl yr un
Addas ar gyfer:
Cyfnod Allweddol 2
Pwrpas:
Bydd y sesiynau yn helpu disgyblion i adnabod newidiadau ym mywydau bob dydd pobl yr ardal yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg; gofyn ac ateb cwestiynau perthnasol am y gorffennol; defnyddio amrywiaeth o ffynonellau.
Bydd y disgyblion yn cael cyfleoedd i ddewis, cofnodi a threfnu gwybodaeth hanesyddol a chyfleu syniadau, safbwyntiau a chasgliadau. Bydd y sesiynau'n helpu disgyblion i ofyn a oedd newidiadau arwyddocaol ym mywydau pobl yn y cyfnod hwn, ac os felly, pam? Byddant hefyd yn ystyried sut fywydau oedd gan y cyfoethogion a'r tlodion, dynion, menywod a phlant.
Sesiwn yng nghwmni actor cymeriad:
Yn ystod y sesiwn hon gyda hwylusydd yn y bore, bydd plant yn cwrdd â 'Mr Rosser', actor cymeriad a fydd yn adrodd straeon am rai o'r gwahanol bobl a gyfarfu wrth weithio fel cyfrifwr. Bydd y plant yn dysgu am y gwahanol gefndiroedd a'r dosbarthiadau cymdeithasol y daeth ar eu traws yn ardal Abertawe ar ddiwrnod Cyfrifiad 1851. Bydd y plant yn dysgu am y gwahanol fathau o swyddi oedd gan y cyfoethogion, tlodion, dynion, menywod a phlant yng Nghymru ddiwydiannol Oes Fictoria. Byddant yn dysgu am y newidiadau a ddigwyddodd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a sut y gellir gweld y newidiadau hyn mewn un ardal o dref ddiwydiannol fel Abertawe.
Beth sydd yn eich tŷ chi? Sesiwn trin a thrafod gwrthrychau:
Yn ystod y sesiwn hon gyda hwylusydd yn y bore, dosrennir y dosbarth yn 6 grŵp i archwilio tystiolaeth o lygad y ffynnon a thystiolaeth eilradd. Bydd pob grŵp yn derbyn amlinelliad o un o'r bobl a restrir yng Nghyfrifiad 1851. O'r briff hwn, bydd rhaid iddynt ddewis arteffactau a fyddai, o bosib, wedi dod o dŷ'r person hwnnw, a chyfiawnhau eu dewisiadau. Bydd rhaid iddynt ystyried sut a pham y mae gwrthrychau'n darparu tystiolaeth am fywyd person, yn cynnwys dosbarth cymdeithasol, galwedigaeth a diddordebau. Byddant yn ymchwilio i ystod eang o wrthrychau sy'n perthyn i'r gwahanol gymeriadau ac yn creu darlun o fywyd yn y 19eg ganrif.
Llwybr y Fictoriaid:
Yn ystod y sesiwn hon dan arweiniad yr athro yn y prynhawn, dosrennir y dosbarth yn grwpiau (pob un dan arweiniad oedolyn) i gwblhau taflen waith am fywyd yng Nghymru Oes Fictoria.
Ar ôl cwblhau gweithgaredd, disgwylir bod y plant wedi ennill gwell dealltwriaeth o'r ffordd mae gwrthrychau'n cynnig tystiolaeth o'r newidiadau ym mywydau bob dydd pobl Cymru yn y 19eg ganrif.
Yn berthnasol i:
Hanes a Sgiliau Fframwaith









