Rydych chi yn: Hafan > Curadurol ac ymchwil > Bioamrywiaeth a Bywydeg Gyfundrefnol > Cysylltwch â ni > Proffilau Staff
English

Proffilau Staff

Graham Oliver: Pennaeth Adran

Arbenigedd

Molysgiaid yw prif faes ei ymchwil ac mae ganddo arbenigedd penodol ym maes cregyn deuddarn (cregyn bylchog) o'r cefnfor Indo-Pasiffig ac o'r dyfnfor. Cadwraeth molysgiaid, yn arbennig misglod dwr croyw. Yn aelod o Grwp Bioamrywiaeth Cymru, y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol yng Nghymru.

Gwaith Cyfredol

Prif archwilydd 'Basddyfroedd Capricorn' Taith ymchwil i Grib Mascarene (Seychelles, Mauritius). Tacsonomeg a Morffoleg Ffwythiannol Molysgiaid y Dyfnfor o Lannau Oman.Tacsonomeg cregyn deuddarn o'r Môr Coch.

Ffôn: +44 (0)29 2057-3220
E-bost: graham.oliver@amgueddfacymru.ac.uk


Michelle Forty: Ysgrifennydd Adrannol

Ysgrifenyddes yr Adran, gyda chyfrifoldeb ysgrifenyddol/gweinyddol am ryw 30 o aelodau llawn-amser o staff a nifer o staff ar gontract. Mae'n gweithio gyda'r Ceidwad ac yn arolygu gwaith teipyddes hefyd. Yn gyfrifol am gyllideb yr adran.

Ffôn: +44 (0)29 2057-3220


Sarah Lendrum: Teipydd

Ei phrif ddyletswyddau yw teipio adroddiadau, papurau gwyddonol, taflenni derbyn, cyhoeddiadau a gohebiaeth. Mae'n rhoi cymorth ysgrifenyddol a gweinyddol i Ysgrifenyddes yr Adran.

Ffôn: +44 (0)29 2057-3224


Chris Meechan: Darlunydd Gwyddonol

Arbenigedd

Cynhyrchu darluniau lliw a du a gwyn a gwaith graffeg i'w cynnwys yng nghyhoeddiadau a deunydd hyrwyddo'r gyfadran. Yn gyfrifol am ddefnyddio'r offer Cyhoeddi Pen Bwrdd.

Gwaith Cyfredol

Mae'n gweithio ar gynhyrchu darluniau o falwod tir Madeira a Dwyrain Affrica ac Adroddiad BIOMOR 2.

Ffôn: +44 (0)29 2057-3394


Helen Fraser: Curadur (Ffotograffiaeth Fotanegol) a Llyfrgellydd

Yn gyfrifol am Lyfrgell yr Adran Bioamrywiaeth a'r casgliad o sleidiau ffotograffig botanegol. Mae'n gydgyfrifol am yr archifau botanegol. Mae'n cywain deunydd ar gyfer y cyhoeddiad dwyflynyddol 'Bibliography of European Palaeobotany & Palynology' ac ar gyfer cylchgrawn yr adran, 'The Symbiont'. Mae'n cynorthwyo gyda'r agweddau gweinyddol ar gyhoeddiadau yn yr Adran Hanes Llystyfiant.

Ffôn: +44 (0)29 2057-3344


Piers Langhelt: Adnoddau Adrannol

Arbenigedd

Cynnal a gofalu am storfa o nwy potel, deunydd fflamychol a deunydd cyrydol.

Gwaith Cyfredol

Fish Arolwg o Ddosbarthiad Pysgod (yn y DU).

Ffôn: +44 (0)29 2057-3242


Staff Dogfennaeth

Richard Sewell: Cynorthwy-ydd Dogfennaeth

Arbenigedd

System Rheoli Casgliadau, Cronfa Ddata Swoleg.

Gwaith Cyfredol

Projectau cyfredol: Dogfennu a Chatalogio'r Casgliad Rubus. Dogfennu'r casgliad Croen Adar. Trefnu ynglyn â manylion terfynol cynhyrchu catalog ar Gasgliad Cephalapod W.E. Hoyles a dogfennu catalog y casgliad Darluniau Botanegol.

Ffôn: +44 (0)29 2057-3330