Casgliadau Eraill
Mae'r Llyfrgellydd hefyd yn Llyfrgellydd Anrhydeddus i dair cymdeithas: Cymdeithas Archeolegol Cambria, Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd a Chymdeithas Hynafiaethwyr Sir Fynwy.
[delwedd: Wyndham]
Cymdeithas Archeolegol Cambria
Datblygodd y llyfrgell hon yn bennaf trwy gyfnewid ei chyfnodolyn Archaelogia Cambrensis â nifer o sefydliadau tebyg, yng ngwledydd Prydain a thramor. Gwelwch wefan Cymdeithas Archeolegol Cambria.
Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd
Derbynnir nifer o gyfnodolion rhyngwladol trwy gyfnewid ac maent yn gyfraniad pwysig i Lyfrgell yr Amgueddfa yn y maes hwn. Gan nad yw'r Gymdeithas bellach yn paratoi cyfnodolyn cyson i'w gyfnewid, mae Amgueddfa Cymru ei hun wedi dechrau naill ai danysgrifio neu gyfnewid â rhai cymdeithasau a dorrodd eu cysylltiad â'r Gymdeithas, er mwyn parhau i dderbyn cyfnodolion allweddol. Gwelwch wefan Cymdeithas Naturiaethwyr Caerdydd.
Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Fynwy
Cedwir casgliad o lyfrau a chyfnodolion archeolegol yn llyfrgell fechan yr Amgueddfa yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion.
Gwelwch wefan Monmouthshire Antiquarian Association.