Adnoddau ar y wê
Plant y Chwyldro
Adnodd dysgu amlgyfrwng newydd gan Gyngor Dinas Casnewydd ac Amgueddfa Cymru yw Plant y Chwyldro. Bydd plant yn dysgu am y gweithlu diwydiannol drwy astudio tystiolaeth hanesyddol go iawn trwy amrywiaeth o brofiadau amlgyfrwng. Byddant yn cyfarfod â chymeriadau o’r gorffennol yn eu gweithle, cartrefi ac ysgolion a byddant yn darganfod sut y gwnaeth y boblogaeth a nifer y trefi sianti gynyddu’n syfrdanol yn sgil galw’r genedl am haearn a glo. Byddant hefyd yn dysgu am broblemau fel tlodi, salwch a diffyg maeth a oedd yn elfennau anochel o dwf trefol cyflym.Hanes Merched Cymru 1900-1918
Ychydig o sylw a roddwyd i leisiau menywod Cymru yn hanesyddiaeth y wlad hyd yma - prin yw'r merched o haneswyr ac nid oes lee amlwg i ferched yn y llyfrau hanes chwaith. Seilir y pecyn hwn yn bennaf ar y cyfoeth o archifau a geir yn Amgueddfa Werin Cymru a'r bwriad yw cyflwyno adnoddau gweledol, llafar ac ysgrifenedig sy'n ymwneud â phrofiadau menywod rhwng 1900 a 1918.At Wyneb Daear
Ydych chi erioed wedi cyffwrdd â gwrthrych o’r gofod? Bellach, gall disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru ddysgu mwy am feteorynnau, difodiannau torfol a chreigiau ar y Ddaear, y Lleuad a Mawrth gan ddefnyddio sbesimenau go iawn.Pecyn Athrawon yr Oes Haearn
O gyfnod adeiladu'r bryngaerau a dechrau defnyddio haearn, i amser gwrthsafiad y llwythau a goresgyniad y Rhufeiniaid, mae Oes Haearn y Celtiaid yng Nghymru (750CC-OC50) yn gyfnod diddorol eithriadol o newidiadau a datblygiadau. Gallwn ddysgu am arferion, credoau a threfniadaeth y cymdeithasau Celtaidd cynnar trwy edrych ar yr olion a adawyd ganddynt. Mae archaeolegwyr yn ceisio gwneud pos jig-so o darnau o dystiolaeth o hen hanes pobl, a ganfuwyd yn ystod gwaith archwilio a chloddio neu ar hap. Mae 'sbarion' gwledd neu adfeilion anheddiad yn rhoi cliwiau i ni sy'n ychwanegu at ddarlun mwy cynhwysfawr o fywyd yn ystod yr Oes Haearn.
