Adnoddau strategol a masnachol


Byddwn ni'n defnyddio dulliau strategol a masnachol i ddatblygu a dyrannu adnoddau, er mwyn gosod sylfaen gref a chadarn i gyflawni ein Gweledigaeth ar gyfer y deng mlynedd nesaf a'r tu hwnt.
Ein bwriad yw cyflawni'r mentrau strategol hyn:
- Cydweithio â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod arian ar gael i Amgueddfa Cymru allu gwireddu ei Gweledigaeth (bl. 1 – bl. 3)
- Hyrwyddo cynaliadwyedd ledled Amgueddfa Cymru (bl. 1 – bl. 3).
- Gweithio gyda’r Bwrdd Ymddiriedolwyr a’r Bwrdd Datblygu i ddenu cymaint â phosibl o gyllid allanol ar gyfer cynlluniau cyfalaf yr Amgueddfa (bl. 1 – bl. 3), a rhoi strategaeth codi arian ar gyfer datblygu Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ar waith yn benodol (bl. 1 – bl. 3).
- Rhoi Cynllun Datblygu diwygiedig Mentrau ar waith (bl. 1 – bl. 3).
- Adolygu meysydd ble gellid cynhyrchu incwm gan gynnwys codi tâl am ymweliadau wedi’u hwyluso (bl. 1).
