Eiriolaeth effeithiol



Byddwn ni'n hyrwyddo cynaliadwyedd cyhoeddus, gwleidyddol ac ariannol er mwyn datblygu proffil Amgueddfa Cymru a gwella dealltwriaeth pobl am bwysigrwydd gwaith yr Amgueddfa. Ein nod yn hyn o beth fydd gosod sylfeini'r datblygiadau a fydd yn ein galluogi ni i fod yn Amgueddfa ddysg o safon ryngwladol.
Ein bwriad yw cyflawni'r mentrau strategol hyn:
- Cefnogi’r Ymddiriedolwyr yn eu gwaith eiriolaeth trwy eu briffio’n rheolaidd, a rhoi hyfforddiant a llenyddiaeth briodol iddynt (bl. 1 – bl. 3).
- Parhau i ddatblygu a meithrin y berthynas werthfawr gyda Noddwyr a Chyfeillion Amgueddfa Cymru (bl. 1 – bl. 3).
- Trefnu a chynnal digwyddiadau eiriolaeth er mwyn i Amgueddfa Cymru gael y cyfle i gyfathrebu â dylanwadwyr allweddol Cymru a chydweithio â nhw (bl. 1 – bl. 3)
- Rhoi Strategaeth Eiriolaeth ddiwygiedig Amgueddfa Cymru ar waith (bl. 1 - bl. 3).
