Cynnal a datblygu doniau, sgiliau proffesiynol a galluoedd
[delwedd: ]
[delwedd: ]
Byddwn ni'n cynnal ac yn ymestyn doniau, sgiliau proffesiynol a galluoedd craidd ein staff. Ni allwn ni gyflawni ein Gweledigaeth oni bai bod gan ein staff y sgiliau a'r galluoedd cywir i wneud eu swyddi'n dda. Fel 'sefydliad sy'n dysgu', rydyn ni'n cofleidio ethos o welliant parhaus a byddwn ni'n parhau i fuddsoddi yn natblygiad ein staff.
Ein bwriad yw cyflawni'r mentrau strategol hyn:
- Tanlinellu ein hymrwymiad i ddatblygu prentisiaethau a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau’r di-waith, paratoi ‘Cynllun Datblygu Sgiliau Treftadaeth’ (bl. 1) a’i roi ar waith (bl. 2 a bl. 3).
- Parhau i roi’r fframwaith cymwyseddau ar gyfer yr Adolygiadau o Berfformiad a Datblygiad (PDR) ar waith gam wrth gam ar draws y sefydliad (bl. 1).
- Sicrhau ein bod yn cadw statws Buddsoddwr mewn Pobl yn Big Pit, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Sain Ffagan, Amgueddfa Wlân Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru (bl. 1 – bl. 3).
- Gweithio tuag at ennill statws corfforaethol Buddsoddwr mewn Pobl ar draws yr holl safleoedd. Yn unol â hyn, datblygu cynlluniau i danlinellu’r ymrwymiad i gyrraedd y safonau uchaf o sgiliau arwain a rheoli ar bob lefel (bl. 1 – bl. 3).
- Rhoi cynlluniau i ad-drefnu’r sefydliad ar waith ac ymgysylltu ac ymgynghori â staff (bl. 1).
- Adolygu a gwella systemau cyfathrebu mewnol (bl. 1)