Partneriaethau


Byddwn ni'n ehangu ein partneriaethau cymunedol, strategol ac ariannol er mwyn cyfoethogi cwmpas ein gwaith, datblygu ar hyd llwybrau dysgu newydd a chreu amgueddfeydd adnabyddus sy'n ennyn hyder fel canolfannau gwybodaeth ac arloesi ar draws y byd.
Ein bwriad yw cyflawni'r mentrau strategol hyn: (oni nodir fel arall, caiff y rhain i gyd eu cyflawni dros oes y cynllun)
- Cynorthwyo CyMAL wrth fwrw ymlaen â Strategaeth Amgueddfeydd Llywodraeth Cymru (bl. 1 – bl. 3).
- Ymestyn gwaith Partneriaethau Amgueddfa Cymru (bl. 1 – bl. 3) a rhoi cam nesaf Cyfoeth Cymru Gyfan ar waith (bl. 1 – bl. 3).
- Datblygu fframwaith i hwyluso defnydd ffurfiol ac anffurfiol o’r amgueddfeydd gan grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BAME).
- Parhau i ddatblygu ein perthynas â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
- Cynorthwyo Parc Cenedlaethol Eryri wrth iddo ddatblygu cynlluniau i greu canolfan ddehongli yn Yr Ysgwrn (bl. 1 – bl. 3)
- Meithrin ein perthynas ag awdurdodau lleol a sefydliadau diwylliannol eraill ym mhrif ddinasoedd Cymru gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Dinas a Sir Abertawe er mwyn datblygu mentrau ar y cyd (bl. 1 – bl. 3).
- Gweithio gyda Chyngor Gwynedd a phartneriaid eraill i gefnogi’r cais am Statws Treftadaeth y Byd ar gyfer ardaloedd y diwydiant llechi a’r berthynas barhaus â phartneriaeth y dreftadaeth lechi (bl. 1 – bl. 3).
- Parhau i gyfrannu at weithredu cynllun rheoli Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon a cheisio cryfhau’r trefniadau gwaith cyfredol â phartneriaid eraill. Yn benodol, cynnal gwaith gwella ar y cyd â phroject Tirweddau Angof (bl. 1 – bl. 3).
- Ymchwilio i gyfleoedd ar gyfer datblygu cynnyrch masnachol (bl. 1 – bl. 3).
- Hyrwyddo cyfleoedd i ddenu cyllid allanol i ariannu gwaith ymchwil gan gynnwys nawdd y Cynghorau Ymchwil (bl. 1).
- Parhau i archwilio cyfleoedd i gydweithio a gweithio mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus eraill er mwyn sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn cynnig y gwasanaeth gorau posibl i bobl Cymru yn y modd mwyaf effeithiol ac effeithlon (bl. 1 – bl. 3).
- Ymgysylltu ag amgueddfeydd a sefydliadau diwylliannol proffesiynol yn y DU ac yn rhyngwladol, a sicrhau bod buddiannau amgueddfeydd Cymru yn cael eu cynrychioli (bl. 1 – bl. 3).







