Cyfleu'r casgliadau trwy adrodd straeon perthnasol ac addysgiadol
[delwedd: ]
[delwedd: ]
[delwedd: ]
Byddwn ni'n cyfleu ein casgliadau a'n hatgofion ni i gyd trwy adrodd straeon perthnasol, ystyrlon ac addysgiadol. Byddwn ni'n ceisio gwneud hyn trwy sicrhau ein bod ni'n defnyddio technegau dehongli arloesol a phwerus a mannau hyblyg, croesawgar a phriodol ym mhob un o'n hamgueddfeydd. Yn hyn o beth, byddwn ni'n canolbwyntio ein hymdrechion ar Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
Ein bwriad yw cyflawni'r mentrau strategol hyn:
- Llunio Strategaeth Arddangosfeydd newydd ar gyfer y sefydliad (bl. 1) ac fel rhan o’r gwaith, datblygu cynlluniau ar gyfer arddangosfeydd hirdymor mwy – arddangosfeydd ‘mawreddog’ – o 2014 ymlaen, gan gynnwys cynllunio ariannol a busnes priodol (bl. 1).
- Cynnal project ymchwil a datblygu arddangosfa i ddathlu trichanmlwyddiant Richard Wilson yn 2013/14.
- Datblygu cynigion ar gyfer arddangosfeydd yn ystod 2014 sy’n cynnig canolbwynt i fyfyrio ar gan mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Mawr gyda’r posibilrwydd y gallant deithio i leoliadau eraill (bl. 1 – bl. 3).
- Cynnal rhaglen dreigl o waith adnewyddu arddangosiadau ac arddangosiadau dros dro yn yr holl amgueddfeydd (bl. 1).
- Parhau â’r rhaglen arddangosfeydd dros dro i’w harddangos yn eu tro yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru a lleoliadau partner eraill (bl. 1 – bl. 3).
- Gwerthuso llwyddiant yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol er mwyn llywio’r drefn o arddangos gwaith celf yn y dyfodol yn unol ag adroddiad ABL (Hydref 2008) a oedd yn argymell creu Oriel Gelf Genedlaethol ac Amgueddfa Genedlaethol Hanes Natur ar safle Parc Cathays (bl. 1).
- Datblygu cynlluniau ar gyfer tair oriel arddangos newydd yn Sain Ffagan fel rhan o broject Creu Hanes yn Sain Ffagan (bl. 1)