Denu cynulleidfaoedd â blaenoriaeth



Byddwn ni’n estyn allan ac yn ymgysylltu â chynulleidfaoedd penodedig â blaenoriaeth gan roi ffocws i’n gwaith addysg ac allestyn yng Nghymru a’r tu hwnt.
Ein bwriad yw cyflawni'r mentrau strategol hyn:
- Dechrau rhoi Cynllun Gweithgareddau project Sain Ffagan ar waith, gan weithio ar y cyd â chynulleidfaoedd targed a phartneriaid (bl. 1 – bl. 2).
- Symud menter ‘Ein Hamgueddfa’ Sefydliad Paul Hamlyn yn ei blaen drwy weithio gyda phartneriaid yn y trydydd sector i ddatblygu cyfleoedd gwirfoddoli sy’n gweddu i anghenion cynulleidfaoedd (bl. 1 – bl. 2).
- Archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio’r system archebu ar gyfer defnyddiau eraill (bl. 1).
- Datblygu’r ffocws ar ardaloedd/partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf, plant a phobl ifanc (gan gynnwys/yn enwedig y rheini sy’n byw mewn tlodi), dysgwyr Cymraeg, teuluoedd, pobl ifanc a thwristiaid (bl. 1 – bl. 3).
- Parhau i roi Cynlluniau Gweithredu Datblygu Cynulleidfaoedd ar waith ym mhob un o’n hamgueddfeydd ac adolygu a diwygio’r cynlluniau (bl. 1 – bl. 2).
- Adolygu’r strategaeth addysg ar draws y sefydliad, drwy ymgynghori, er mwyn cynyddu’r ymgysylltiad â chynulleidfaoedd sy’n flaenoriaeth yn enwedig ymgysylltu â chymunedau dan anfantais (bl. 1).
- Rhoi Strategaeth Tlodi Plant Amgueddfa Cymru ar waith (bl. 1 – bl. 2).
