Bri rhyngwladol
[delwedd: ]
[delwedd: ]
[delwedd: ]
Byddwn ni'n creu bri rhyngwladol
Fel Amgueddfa Genedlaethol Cymru, mae gan Amgueddfa Cymru ran hanfodol i'w chwarae wrth ddweud wrth Gymru am y byd ac wrth y byd am Gymru. Mae gennym ran annatod i'w chwarae wrth gynrychioli Cymru ar lwyfan ryngwladol.
Ein bwriad yw cyflawni'r mentrau strategol hyn:
- Datblygu Strategaeth Ryngwladol gynhwysfawr drwy gydweithio â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill gan gynnwys amserlenni clir a fframweithiau ymgysylltu (bl. 1 – bl. 2).
- Hyrwyddo rôl arweiniol Amgueddfa Cymru o ran ymchwil a chasgliadau yn rhyngwladol ym meysydd y gwyddorau, y celfyddydau a hanes (bl. 1 – bl. 3).
- Cynnal taith gelf yn UDA ar y cyd â’r American Federation of Arts (AFA) (bl. 2)