Teulu o amgueddfeydd o safon ryngwladol


Vision

Byddwn ni'n datblygu ein teulu o amgueddfeydd cenedlaethol o safon ryngwladol er mwyn ysbrydoli dysgu a chysylltu pobl â'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol.

Ar ôl buddsoddi dros £40m yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon, Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, ac Amgueddfa Genedlaethol newydd sbon ar y Glannau yn Abertawe o dan ein Strategaeth Ddiwydiannol, ein bwriad nawr yw canolbwyntio ar Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru. Byddwn ni'n gwrando ar yr adborth a gasglwyd trwy'r ymgynghoriad cyhoeddus cychwynnol a wnaed ar y Weledigaeth yng ngwanwyn 2005 yn hyn o beth.

Ein bwriad yw cyflawni'r mentrau strategol hyn:

  • Cwblhau’r gwaith seilwaith yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru er mwyn paratoi’r safle ar gyfer yr ailddatblygiad (bl. 1).
  • Dechrau ailddatblygiad ffisegol safle Sain Ffagan, yn amodol ar dderbyn arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a chais llwyddiannus i Lywodraeth Cymru (bl. 1 – bl. 3).
  • Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, datblygu uwchgynllun ar gyfer creu Amgueddfa Genedlaethol Hanes Natur ar y llawr gwaelod a datblygu strategaeth ariannu (bl. 1).
  • Yn unol â’r uwchgynllun ar gyfer llawr gwaelod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, symud elfennau o’r casgliadau Archaeoleg a Niwmismateg i Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru (bl. 2 neu fel y bo’n briodol).
  • Llunio cynlluniau project ar gyfer ailddatblygu Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru gan gynnwys strategaeth ariannu a phartneriaethau strategol (bl. 1 i fl. 2).
  • Datblygu cynlluniau ar gyfer y Felin a Thŷ Pen Pownd yn Amgueddfa Wlân Cymru (bl. 1).
  • Yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ymchwilio i ddichonolrwydd gosod gwydr yn y ddwy iard er mwyn gwella profiad ymwelwyr boed law neu hindda (bl. 1).
  • Datblygu marchnata ar draws ein hamgueddfeydd sy’n unigryw ac yn cysylltu ein hamgueddfeydd â’i gilydd ac a chyrff treftadaeth eraill hyd a lled Cymru (bl. 1).
  • Datblygu Cynlluniau Cadwraeth ar gyfer ein Hadeiladau Rhestredig (bl. 1 – bl. 3).

Meysydd blaenoriaeth y Weledigaeth – 1 – Creu Amgueddfeydd Byw / 2 – Casgliadau Llewyrchus

» Nol i'r Map Gweledigaeth