10. Gweini ar y Fferm
12-Track-12.mp3
[delwedd: Neuadd Fawr Mansion, Llanwnnen, Ceredigion, 1890s]
Gweithwyr wedi gorffen y cynhaeaf gwair ym Mhlas Neuadd Fawr, Llanwnnen, Ceredigion, yn y 1890au.
A och chi'n ddeuddeg o blant i gyd wedyn?
Wên, ond ôn ni ddim yn ddeuddeg yr amser 'na, cofiwch chi nawr. Odd rhai o ni nawr – a meddyliwch chi nawr – odd 'na bytu pum mlynedd ar ugen rhyngton ni, wy'n credu nawr. Rhwng y lleia nawr a'r hena chimbod, a'r ioua, chi'n gwbod nawr.
Ie, felly odd 'na erioed y deuddeg o chi i gyd adre ar yr un pryd?
O na. O, nag odd ddim. O nag odd ddim, nag odd ddim. ond own i'n - amser wy'n cofio nawr ôn ni bump a hwech gartre (gy)da'n gilydd.
A faint o ysgol gethoch chi?
Wel, ges i ysgol 'sbo fi'n mynd i standard seven a douddeg ôd ôn ni pryd 'ny.
A beth nethoch chi ar ôl dechre gweini?
O wel, odd ddim byd - odd dim byd i neud pryd'ny ond mynd mâs i'r fferm ch'wel. Wel odd dim – wel y – yn y wlad nawr odd (gy)da chi dim byd i gâl ond mynd mâs i fferm...
Odd dwy forwm yn Pant Moch a dou was a dyn yn gweithio ar – ar y tir, yn byw ar y tir oedd yn gwitho 'na bob dydd, a menyw 'no wedyn yn dod i witho'n amal iawn just bob dydd. Odd honno wedyn yn – 'deiladon' ôn nhw'n galw nhw. ôn nhw'n byw ar y tir chimbod. Odd e'n lot o waith pryd'ny, ôch chi'n gorffod neud pob peth ... Meddyliwch chi nawr 'sen nhw'n gwasgar dom ŷn ni'n gweud ch'mod – ch'mod – 'tail' ma' rhai'n dweud. 'Dom' ŷn ni'n alw e ffor' hyn. Byse hi'n mynd mâs (gy)da nhw. Hi a'r ail forwyn yn mynd mâs gyda'r bois achos och chi – odd ch'mod ffarmio yn slow iawn pryd'ny chwel wrth fel mân nhw nawr, ond odd e? Och chi'n gorffod neud pob peth a caib a rhaw ys gwedon nhw.
Mrs Kate Davies, Llandysul, ganed 1892.
Tâp archif AWC rhif 3927. Recordiwyd 1973.