Rydych chi yn: Hafan > Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd > Am yr amgueddfa > Gwreiddiau – Canfod y Gymru gynnar > Canol Oesoedd
English

Y Canol Oesoedd National Museum Cardiff

Crys mael (1400au), teilsen lorio (1300au) a darnau gwyddbwyll (1100au)

1070au-1530au OC

Roedd Cymru yn 1350 yn wlad wahanol iawn i Gymru yn 1050. Erbyn 1550, roedd wedi newid yn ddramatig eto.

Mae mwy o ffynonellau ysgrifenedig wedi goroesi o’r cyfnod hwn nag erioed o’r blaen. Dywedant wrthym am y digwyddiadau a drawsnewidiodd y Gymru Ganoloesol. Mae Archeoleg yn datgelu'r hyn na all hanes.

Cynigia’r gwrthrychau ar ddangos gipolwg ar fywyd o ddydd i ddydd. Mae rhai yn adlewyrchu testunau cyfredol, megis dylanwad rhyfel a mynegiant o ffydd. Dengys eraill newidiadau mewn ffasiwn a safonau byw …a dylanwadau cynyddol, unwaith eto, o Ewrop gyfandirol.

Gwnaed Diptych Llandaf o ifori eliffant ym Mharis tua 1340/60 OC. Bwriedid i Ddiptychau a thriptychau (delweddau dau a thri phanel) ddenu’r gwyliwr canoloesol i fyfyrio am fywyd a dioddefaint Crist.

Diptych Llandaf

Daeth Paris yn ganolfan doreithiog ar gyfer gwneud gwrthrychau defosiynol o’r fath.

Darganfuwyd y panel ar y dde yn ystod dymchwel ‘hen dŷ’r ffynnon’ yn Llandaf ym 1836, tra bo’r un ar y chwith bellach yng nghasgliad Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl.

Pan nad yw’r gwreiddiol ar fenthyg, dangosir copi resin a dorrwyd gan laser o’r panel ar y chwith.