Y Canol Oesoedd - National Museum Cardiff
1070au-1530au OC
Roedd Cymru yn 1350 yn wlad wahanol iawn i Gymru yn 1050. Erbyn 1550, roedd wedi newid yn ddramatig eto.
Mae mwy o ffynonellau ysgrifenedig wedi goroesi o’r cyfnod hwn nag erioed o’r blaen. Dywedant wrthym am y digwyddiadau a drawsnewidiodd y Gymru Ganoloesol. Mae Archeoleg yn datgelu'r hyn na all hanes.
Cynigia’r gwrthrychau ar ddangos gipolwg ar fywyd o ddydd i ddydd. Mae rhai yn adlewyrchu testunau cyfredol, megis dylanwad rhyfel a mynegiant o ffydd. Dengys eraill newidiadau mewn ffasiwn a safonau byw …a dylanwadau cynyddol, unwaith eto, o Ewrop gyfandirol.
Gwnaed Diptych Llandaf o ifori eliffant ym Mharis tua 1340/60 OC. Bwriedid i Ddiptychau a thriptychau (delweddau dau a thri phanel) ddenu’r gwyliwr canoloesol i fyfyrio am fywyd a dioddefaint Crist.
Daeth Paris yn ganolfan doreithiog ar gyfer gwneud gwrthrychau defosiynol o’r fath.
Darganfuwyd y panel ar y dde yn ystod dymchwel ‘hen dŷ’r ffynnon’ yn Llandaf ym 1836, tra bo’r un ar y chwith bellach yng nghasgliad Amgueddfeydd Cenedlaethol Lerpwl.
Pan nad yw’r gwreiddiol ar fenthyg, dangosir copi resin a dorrwyd gan laser o’r panel ar y chwith.







