Canol Oesoedd Cynnar - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
410 OC – 1070au OC
Beth ddigwyddodd pan ddaeth rheolaeth Imperialaidd Rufeinig i ben?
Yng Nghymru, cododd teyrnasoedd bach Prydeinig i lenwi’r gwacter grym, pob un yn cystadlu i reoli pobl, tir ac adnoddau.
Profodd bobl newidiadau cymdeithasol, gwleidyddol a chrefyddol mawr yn y Canol Oesoedd Cynnar. Roedd teyrngarwch a phŵer rhanbarthol yn tra-arglwyddiaethu pob agwedd o’u bywydau. Ffurfiodd y newidiadau hyn hunaniaeth ddiwylliannol Gymreig oedd yn wahanol i rai gweddill yr Ynysoedd Prydeinig.

Gard isaf cleddyf gwerthfawr yw Dyrnfol Smalls , ac mae’n un o enghreifftiau harddaf o waith haearn yn arddull Urnes Llychlynnaidd diweddar yng Nghymru a Lloegr.
Er iddo gael ei wneud o gwmpas 1100-25 OC, ar ôl y cyrchoedd Normanaidd cyntaf, cynrychiola'r olaf o arddulliau celfyddydol yr oes Lychlynnaidd.
Addurnwyd bob ochr â phâr o anifeiliaid mewn proffil, wedi’u plethu ag anifeiliaid cyffelyb i nadredd. Mae dau anifail arall ar y top yn cnoi’r carn.
Dechreuodd y Llychlynwyr ymosod ar Gymru o’r 850au ymlaen, ac roeddent yn rheoli’r morffyrdd. Hyd at y 700au, masnachodd rhai teyrnasau Cymreig drwy gysylltiadau â Ffrainc, y Canoldir a Gogledd Affrica, yn ogystal ag Iwerddon.

Roedd gan Gristnogaeth ryddid i ymestyn yn y Brydain Rufeinig wedi iddi gael ei mabwysiadu yn grefydd swyddogol y wladwriaeth yn 313 OC. Parhaodd credoau Paganaidd am beth amser, nid leiaf ymhlith y pwerus a’r cyfoethog. Erbyn 600, roedd Cristnogaeth yn ganolog i fywyd mwyafrif o bobl Cymru.
Mae arysgrifau a cherfluniaeth o bwys enfawr i ddeall cymdeithas ganoloesol gynnar yng Nghymru. Ychydig iawn arall sydd wedi goroesi. Gall y cerrig ddweud wrthym am unigolion, eu credoau ac arferion claddu, ieithoedd, celfyddyd a thechnoleg – ac am gyfnewid ymhlith diwylliannau.
Nid tystion mud ydynt ar unrhyw gyfrif. Rhowch gynnig ar ddarllen y dystiolaeth.
