Cyfnod y Rhufeiniaid - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Tua 410 OC
Pan ymosododd y Rhufeiniaid ar Brydain yn 43 OC mae’n ddigon posibl nad oedd eu cynlluniau concweriol yn ymestyn y tu hwnt i dde-ddwyrain Lloegr.
Fodd bynnag, o fewn pum mlynedd roedd y fyddin Rufeinig yn brwydro yn yr hyn a elwir heddiw yn Gymru, a ddaeth i fod yn rhan o’r Ymerodraeth am tua 350 o flynyddoedd.
Mae’n debyg mai Cwpan Llewpard Y Fenni yw’r llestr Rhufeinig ceinaf a ddarganfuwyd yng Nghymru, a gallwch ei weld yn Gwreiddiau. Mae’n arwydd cryf bod agweddau o fywyd clasurol, Canoldirol wedi cyrraedd Cymru, ac mae wedi amlygu arwyddocâd dadansoddiad gwyddonol gwrthrychau archeolegol.

Yn dilyn y goncwest (74-8 OC) lleolwyd tua 30,000 o filwyr ledled Cymru. Parhaodd y goresgyniad milwrol dwys am bron i hanner can mlynedd, ond erbyn y 130au OC nid oedd milwyr ar ôl yn y mwyafrif o gaerau, sy’n awgrymu bod y boblogaeth leol wedi derbyn y drefn Rufeinig.
Ddechrau’r 400au OC collodd yr awdurdodau Rhufeinig canolog reolaeth ar Brydain. Ni fyddent yn ei hadennill fyth.
Roedd canlyniadau economaidd yr amodau anhrefnus yn syfrdanol. Peidiodd arian Rhufeinig a chyrraedd Prydain a chwympodd y strwythurau a roddai fynediad i nwyddau a gwasanaethau Rhufeinig. Dyma ddiwedd rheolaeth y Rhufeiniaid ym Mhrydain.







