Oes yr Haearn - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
[delwedd: Frigwn Capel Garmon]
800 CC – 50 OC
Ar ôl 800 CC, yn araf daeth metel newydd a chaletach, sef haearn, i ddisodli arfau ac offer o efydd bwrw.
Mae’r oriel yn gartref i Frigwn Capel Garmon, campwaith o haearn sy’n dangos medr a llwyddiannau technolegol gofaint Oes yr Haearn.
Mae’r creadur crest ddwbl chwedlonol hwn yn wrthrych gwirioneddol eiconig, ac yn un o’r darnau ceinaf o haearnwaith cynhanesyddol yn Ewrop. Fe’i ystyrir ymysg y deng gwrthrych gorau yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru.
[delwedd: Frigwn Capel Garmon]
Digwyddodd datblygiadau cymdeithasol hynod yn yr Oes Haearn Ddiweddar (50 CC – 50 OC). Daeth cymunedau bryngaerog bychain at ei gilydd i ffurfio llwythau rhanbarthol mwy.
Ganwyd elitau newydd, pwerus. Cystadlai arweinwyr am rym a rheolaeth mewn cyfnod gwleidyddol newidiol. Ychwanegodd datblygiadau ledled de Lloegr ac ymyriadau cynyddol y Rhufeiniaid danwydd at y broses hon.
Erbyn cyfnod ymgyrchoedd y Rhufeiniaid yng Nghymru, enwau’r prif lwythau oedd: y Silwriaid, yr Ordoficiaid, y Demetae a’r Deceangli.