Yr Oes Efydd - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
2200CC – 800CC
Wrth i gopr, ac yna efydd, gael eu darganfod a thechnegau gwaith metal ledaenu ledled Prydain, newidiodd gwerthoedd diwylliannol a ganwyd grymoedd cymdeithasol newydd a phwerus.
Mae breichdorchau Capel Isaf yn oriel Gwreiddiau’n esiamplau prydferth o rai o’r gwrthrychau aur cynharaf o Gymru (yn dyddio o 1600-1300 CC).
Mae eu symlder di-amserol yn dangos medrau’r eurof Oes Efydd.
Yn y cyfnod hwn dangoswyd statws uchel drwy addurno’r corff a chyfoeth a phethau egsotig a lliwgar yn union fel rhain.
Yn gynyddol, daliwyd safleoedd o ddylanwad gan bobl a allai gael mynediad at fwynau metel ac a feddai fedrau cyfareddol gwaith metel.
Daeth y rhai a reolai gyfnewid gwrthrychau metel gwerthfawr yn arbennig o bwerus.
Am bron i 1500 o flynyddoedd, byddai’r ffactorau hyn yn penderfynu safle pobl yng nghymunedau statws-ymwybodol yr Oes Efydd.







